Bydd ymgynghoriaeth peirianneg byd-eang yn helpu i gyflwyno pentref digidol o'r radd flaenaf yng nghanol Abertawe.

Penodwyd WSP gan Gyngor Abertawe i lywio cynlluniau trawsnewid Ffordd y Brenin ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys 100,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa ar gyfer busnesau arloesol mewn sectorau megis technoleg, TGCh a gwyddorau bywyd. Bydd mannau cyhoeddus newydd deniadol hefyd.

Arian gan y cyngor sy'n gwneud y gwaith trawsnewid hwn yn bosib. Bydd hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn, gan fuddsoddiad mewn 11 o brosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe ac, os caiff achosion busnes eu cymeradwyo, gan arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae WSP yn cyflogi oddeutu 7,800 o bobl yn y DU sy'n datblygu datrysiadau peirianneg creadigol, cynhwysfawr a chynaliadwy.

Yn Abertawe, bydd y cwmni'n adnewyddu strategaeth adfywio'r cyngor ar gyfer Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan ac yn diweddaru ei gynllun gweithredu. Bydd yn datblygu cynllun y cyngor ar gyfer hen safle Oceana ymhellach er mwyn cyflwyno Canolfan Gyflogaeth uwch-dechnoleg ar Ffordd y Brenin.

Wrth gyflwyno'r cynllun, caiff WSP ei gefnogi gan ymgynghorwyr eiddo ac adeiladu Gleeds, arbenigwyr dylunio trefol The Urbanists, arbenigwyr amgylchedd adeiledig Architecture 00 ac ymgynghorwyr eiddo masnachol Cushman Wakefield.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Bydd y partner newydd o safon hwn yn allweddol er mwyn datblygu'r Pentref Digidol, gan weithio gyda swyddogion y cyngor a chyda gweithwyr proffesiynol eraill.

"Bydd Ffordd y Brenin yn dod yn gyrchfan digidol ffyniannus wrth i ni ddechrau cyflwyno prosiectau a fydd yn cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn.

"Rydym am drawsnewid canol y ddinas yn ganolfan fywiog a phrysur ar gyfer defnyddiau busnes a hamdden. Rydym am gynyddu nifer y bobl sy'n gweithio ac yn byw yn Abertawe a dod â swyddi da i'r ardal.

"Bydd y Pentref Digidol yn allweddol i gynlluniau adfywio anhygoel canol y ddinas a fydd hefyd yn cynnwys Ffordd y Brenin sy'n addas i bobl, arena ddigidol â lle i 3,500 o bobl a Sgwâr Gardd y Castell â newydd wedd."

Meddai Chris Pembridge, cyfarwyddwr WSP, "Rydym yn falch iawn o gael ein dewis i weithio gyda Chyngor Abertawe ar Ganolfan Gyflogaeth Ffordd y Brenin a'r gwaith i adnewyddu Ffordd y Brenin.

"Mae'n fraint go iawn i gael y cyfle i fod yn rhan o brosiectau a fydd mor allweddol o ran adfywio'r ardal hon o Abertawe."

Mae gwaith gwerth £12 miliwn i drawsnewid ardaloedd i gerddwyr a cherbydau Ffordd y Brenin yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd yn darparu prif wythïen werdd ar gyfer y ddinas ac yn helpu i greu cannoedd o swyddi.

Bydd Ffordd y Brenin yn cael ei throi'n barc dinesig a fydd yn ymgorffori ardaloedd cyhoeddus newydd, parcdir wedi'i dirlunio, llwybrau beicio a ffordd gerbydau ddwyffordd ag un lôn yn ogystal â chreu llwybrau cerdded lletach.

Mae'r gwaith trawsnewid yn bosib oherwydd arian gan y cyngor, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).