Wrth groesawu canfyddiadau adroddiad newydd, mae arweinwyr Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dweud y bydd nifer o ddatblygiadau mawr sydd ar y gweill yn cyfuno er mwyn helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.

Fel rhan o brosiect Ail-egnïo Cymru a arweinir gan y Sefydliad Materion Cymreig, mae'r adroddiad newydd wedi darganfod bod Dinas-ranbarth Bae Abertawe mewn sefyllfa dda i hybu cynlluniau i gael gwared ar 80% o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws Cymru yn y degawdau nesaf.

Gan ganmol uchelgais ac arweinyddiaeth y Ddinas-ranbarth, mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod gan Fae Abertawe - sy'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot - y potensial i ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy er mwyn bodloni ei holl anghenion trydan erbyn 2035.

Yn amodol ar gymeradwyo achos busnes, mae prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ymysg y rheiny ym Margen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Y bwriad yw cyflwyno'r prosiect ar draws y Ddinas-ranbarth, lle bydd technoleg yn cael ei chyflwyno er mwyn galluogi cartrefi ac adeiladau i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain.

Hefyd, bydd prosiect Ardal Forol Doc Penfro, sy'n amodol ar gymeradwyo achos busnes, yn cael ei ariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig. Bydd y prosiect hwn yn cynnwys parth arddangos ar gyfer dyfeisiau ynni tonnau oddi ar arfordir Sir Benfro.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Arweiniol Dinas-ranbarth Bae Abertawe: "Rydym ni'n croesawu'n fawr adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a'r gydnabyddiaeth mae'n ei rhoi i'r arweinyddiaeth a'r uchelgais ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro er mwyn sicrhau bod Bae Abertawe yn enghraifft o arferion gorau o ran defnyddio ynni adnewyddadwy.

"Bydd canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy yn lleihau ein hôl troed carbon, yn helpu pobl leol i arbed arian ar eu biliau tanwydd, ac yn creu miloedd o swyddi newydd wrth i ni geisio datblygu a phrofi technoleg ynni gwyrdd dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae ynni adnewyddadwy yn thema allweddol ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, y disgwylir iddi roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol a chreu bron 10,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel dros y 15 mlynedd nesaf.

"Yn ogystal â phrosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer a phrosiect Ardal Forol Doc Penfro, rydym yn obeithiol o hyd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymeradwyo cynlluniau Morlyn Llanw Bae Abertawe.

"Byddai'r prosiectau hyn yn cyfuno er mwyn codi proffil Bae Abertawe ar draws y byd fel rhanbarth arloesol a blaengar, a allai hefyd arwain at gyfleoedd buddiol i gwmnïau lleol allforio nwyddau dramor.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Sefydliad Materion Cymreig i weld sut y gallwn roi gweledigaeth yr adroddiad ar waith."
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig hefyd yn pwysleisio'r cyfle i Fae Abertawe ddod yn rhanbarth arweiniol o ran lleihau allyriadau cerbydau, gan nodi targed o gael 80% o geir newydd a 30% o'r holl geir i fod yn rhai trydan erbyn 2035.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Mae nifer o gynghorau rhanbarthol, prifysgolion, byrddau iechyd a chyflogwyr lleol eraill eisoes wedi arwain y ffordd drwy gyflwyno mwy o gerbydau trydan yn eu fflydoedd, ond rydym am i filoedd o bobl wneud yr un peth. Dyna pam mae trafodaethau'n parhau â chynhyrchwyr cerbydau trydan, ac mae astudiaeth ranbarthol yn cael ei chynnal a fydd yn arwain at fwy o bwyntiau gwefru cerbydau ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Wrth i ni annog defnydd trafnidiaeth gynaliadwy di-garbon, mae'n hynod bwysig bod yr isadeiledd i'w chefnogi yn ei le.

"Rydym yn barod ym Mae Abertawe i helpu i lywio ymgyrch genedlaethol a fydd yn arwain at Gymru sy'n fwy gwyrdd nag erioed o'r blaen.