Cyn bo hir, bydd peirianwyr a gwyddonwyr sy'n arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cydweithio â chwmni gweithgynhyrchu lleol arloesol i helpu i roi hwb i'r busnes am flynyddoedd i ddod.

Fel rhan o brosiect Ffatri'r Dyfodol a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, mae Coleg Peirianneg y Brifysgol wedi ffurfio partneriaeth newydd gyda chwmni o Abertawe o'r enw Vortex IoT, sy'n arbenigo mewn cynhyrchu technoleg synhwyrydd o'r radd flaenaf i'w defnyddio mewn amgylcheddau anodd.

Bydd Vortex IoT yn cydweithio â pheirianyddion medrus iawn a gwyddonwyr o'r radd flaenaf mewn Canolfan Ragoriaeth ger Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi Prifysgol Abertawe, lle ymchwilir i ffyrdd arloesol o roi hwb i gynhyrchiant y cwmni a'u rhoi ar waith.

Bydd y gwaith yn helpu i brofi prosesau cynhyrchu sy'n diwallu anghenion yr oes ddigidol, atebion gweithgynhyrchu clyfar ynghyd â thechnolegau digideiddio diwydiannol gan gynnwys gweithgynhyrchu atodol, roboteg, deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data ar raddfa fawr ac awtomatiaeth ddiwydiannol uwch.

Rhagwelir y bydd y gweithgaredd hwn yn helpu Vortex IoT i ddatblygu cyfleuster gweithgynhyrchu pwrpasol yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe, a fydd â'r gallu i weithgynhyrchu hyd at filiwn o synwyryddion y flwyddyn i'w defnyddio ledled y byd.

Gan fod is-swyddfa hefyd wedi'i hagor yn Singapore yn ddiweddar, mae rhywfaint o waith Vortex IoT yn cynnwys atebion synhwyrydd ar gyfer gwasanaethau porth meysydd awyr, monitro ansawdd aer, a darganfod rhwystrau ac ymyriadau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd.

Bydd rhagor o bartneriaethau tebyg rhwng Prifysgol Abertawe a gweithgynhyrchwyr sefydledig, lleol ynghyd â chwmnïau sydd newydd symud i'r Ddinas-ranbarth yn cael eu cyhoeddi yn y blynyddoedd i ddod fel rhan o'r prosiect Ffatri'r Dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Arweiniol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer prosiect Ffatri'r Dyfodol, sef un o blith 11 o brosiectau trawsnewidiol ledled de-orllewin Cymru a fydd yn cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn.

“Mae newidiadau mawr yn digwydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu ledled y byd yn sgil  y pedwerydd chwyldro diwydiannol – Diwydiant 4.0 –  sy'n cael ei sbarduno gan ddatblygiadau parhaus mewn technoleg ddigidol, felly nod prosiect Ffatri'r Dyfodol yw sicrhau ein bod yn cadw i fyny â'r datblygiadau hyn yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu'r sector gweithgynhyrchu rhanbarthol at y dyfodol, creu swyddi tra medrus a denu rhagor o fuddsoddiad.

“Mae Vortex IoT yn llwyddiant lleol ac mae'n berffaith fel partner cyntaf prosiect Ffatri'r Dyfodol.”

Sefydlwyd Vortex IoT yn 2017 ac mae eisoes wedi creu 15 o swyddi tra medrus yn Abertawe. Mae Tata Steel, Network Rail, Dell EMC, ST Engineering, Hitachi, Dŵr Cymru ac IBM ymhlith rhai o gwsmeriaid a phartneriaid Vortex IoT, ac mae'r cwmni hefyd wedi comisiynu labordy prototeipio cyflym ei hun.

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae Vortex IoT yn ychwanegiad ardderchog i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe, ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hir a ffrwythlon gyda'r cwmni. Mae Ffatri'r Dyfodol yn llwyfan i ddatblygu, dangos a hybu arloesedd ym maes gweithgynhyrchu clyfar er mwyn gwella cynhyrchiant a chystadleugarwch y diwydiant gweithgynhyrchu.

Mae ein gwaith cynnar i sicrhau cydweithredu agos rhwng nwyddau arloesol y cwmni a gwaith ymchwil, arbenigedd a thalent y Coleg Peirianneg, yn addo i hwyluso datblygu cyfleoedd newydd gyda phartneriaid diwydiannol rhanbarthol eraill, na fyddai'n bosibl fel arall."

Dywedodd Dave Seaton, Cadeirydd Anweithredol Vortex IoT: "Bydd y brwdfrydedd a'r gefnogaeth y mae Prifysgol Abertawe a thîm Ffatri'r Dyfodol yn eu rhoi i Vortex IoT yn gatalydd o ran creu ein cynnyrch ac atebion.

“Mae cael mynediad at beirianwyr o'r radd flaenaf a chyfleusterau sy'n canolbwyntio'n benodol ar Ddiwydiant 4.0 yn adnodd arbennig sy'n gaffaeliad mawr i gwmni ifanc, deinamig ac arloesol fel Vortex IoT.

"Yn sicr, gwnaethom y penderfyniad cywir wrth sefydlu ein busnes yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Mae ein tîm cyfan bellach yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i gyflymu'r gwaith o gyflwyno ein ffatri newydd."