Mae Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe wedi cymeradwyo Cytundeb Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe erbyn hyn, gan ddilyn enghraifft Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r Cytundeb Cyd-bwyllgor sy'n amlinellu egwyddorion y Fargen Ddinesig, wedi'i gymeradwyo a golyga hyn y gellir sefydlu strwythur llywodraethu y Fargen Ddinesig yn ffurfiol. Bydd y strwythur hwn yn cynnwys Cyd-bwyllgor a fydd yn goruchwylio pob agwedd ar y Fargen Ddinesig, yn ogystal â Bwrdd Strategaeth Economaidd â chynrychiolwyr o'r sector preifat.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'r Fargen dan arweiniad y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe ac Arweinydd Arweiniol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae hwn yn gam pwysig oherwydd mae'n golygu ein bod bellach yn gallu dechrau cyflwyno Bargen Ddinesig Bae Abertawe er lles pobl ledled De-orllewin Cymru.

"Mae'r Cytundeb Cyd-bwyllgor yn sylfaen hanfodol ac mae'n bwysig bod y cytundeb ar waith er mwyn i Fargen Ddinesig Bae Abertawe symud ymlaen, felly mae'r ffaith bod yr holl bartneriaid wedi'i chymeradwyo yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol cyffrous iawn.  Bydd strwythur llywodraethu ffurfiol ar gyfer y Fargen Ddinesig yn cael ei gyflwyno cyn bo hir am y tro cyntaf, a fydd yn arwain, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, at gael cyllid ar gyfer pob un o'r 11 prosiect trawsnewidiol.

"Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y prosiectau hyn gyda'i gilydd yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r Ddinas-ranbarth, gan helpu i gau'r bwlch economaidd rhwng De-orllewin Cymru a rhannau llawer mwy cyfoethog o'r DU. Bydd y Fargen Ddinesig hefyd yn creu bron 10,000 o swyddi newydd â chyflogau da mewn sectorau allweddol megis gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu clyfar, ynni a'r diwydiannau creadigol."

Dywedodd Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrif Weithredwr Arweiniol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae'r ffaith bod Cytundeb Cyd-bwyllgor wedi'i gymeradwyo gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dangos cymaint o waith sydd wedi cael ei gyflawni yn y cefndir ers cryn amser i gyrraedd y cam hwn.

"Dyma enghraifft o weithio rhanbarthol ar ei orau, wrth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat ym Mae Abertawe ddod at ei gilydd a gweithio tuag at nod cyffredin o wella bywydau pobl leol yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

"Bellach gallwn hoelio ein sylw ar gyflwyno 11 prosiect arloesol a fydd yn codi proffil y Ddinas-ranbarth, gan fod yn gatalydd hefyd ar gyfer buddsoddiad pellach ar yr un pryd."

Ymhlith y prosiectau a ariennir yn rhannol gan y Fargen Ddinesig, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, y mae Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, a fydd yn cynnwys arena dan do ddigidol, sgwâr digidol, pentref digidol ar gyfer busnesau technegol, a datblygiad 'pentref blychau' ar gampws SA1 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer busnesau sy'n dechrau arni. Mae yna gynlluniau i greu Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd gwerth £200 miliwn yn Llanelli, a bydd cam cyntaf y clwstwr digidol creadigol o'r enw 'Yr Egin' yn cael ei agor ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yr hydref hwn.

Yn Sir Benfro, bwriedir cyflwyno prosiect i roi hwb i ynni'r môr, a fydd yn cynnwys man profi ar gyfer dyfeisiau ynni'r llanw arloesol.

Caiff prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ei gyflwyno ledled y rhanbarth, gan alluogi tai ac adeiladau eraill i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain.

Ymhlith y prosiectau eraill y mae rhwydwaith Campysau Gwyddor Bywyd a Llesiant, Menter Ffatri'r Dyfodol er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu rhanbarthol; a Chanolfan Gwyddoniaeth Dur i roi sylw i'r heriau presennol a rhai yn y dyfodol o ran cynnal gallu cynhyrchu dur yn y rhanbarth a ledled y DU.

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf a fydd yn llenwi'r bwlch rhwng ymchwil ac arloesi, ac yn helpu i lansio, datblygu a meithrin cyfleoedd masnachol newydd.

Caiff pob prosiect, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, ei ategu gan seilwaith digidol arloesol, yn ogystal â menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn rhoi llwybr i bobl leol gael y swyddi sy'n cael eu creu.