Mae'r galw am gyflymderau Rhyngrwyd cynt a gwell cysylltedd mor fawr ag erioed, ac mae Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n gynyddol ddibynnol ar seilwaith digidol ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd.  Er gwaethaf yr angen dyddiol am gysylltedd symudol, mae'r rhaniad digidol trefol-gwledig dal yn her yn lleol, ond mae camau pendant yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. 

Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn gydweithrediad o Weithredwyr Rhwydwaith Symudol a mentrau Llywodraeth y DU, gan weithio gyda'i gilydd i wella darpariaeth 4G i gymunedau mewn ardaloedd gwledig sydd wedi'u gwasanaethu'n wael ledled y rhanbarth.  Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn un o nifer o brosiectau sy'n cael eu cyflawni ar draws Sir Gaerfyrddin yn ogystal â Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel rhan o Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. 

Bydd y fenter gyfun yn gwella'r seilwaith a fydd yn gwarantu gwasanaeth 4G dibynadwy, gan ganiatáu i fusnesau gwledig ffynnu, helpu'r gwasanaethau brys, a rhoi bod i lawer o fanteision cymdeithasol sy'n aml yn brin mewn ardaloedd anoddach eu cyrraedd. 

O'r 26 safle sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae 14 o safleoedd newydd bellach wedi cael caniatâd cynllunio a byddant yn cael eu hadeiladu yn hanner cyntaf 2024. Mae hyn yn cynnwys dau safle mewn ardaloedd sydd heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl ar hyn o bryd, gan ddod â mewnfuddsoddiad ychwanegol o oddeutu £7 miliwn. Bydd hyn yn trawsnewid y mannau â'r ddarpariaeth waethaf (mannau gwan) yn Sir Gaerfyrddin, gan roi bod i fwy o wasanaethau iechyd ar-lein, mynediad mwy dibynadwy i'r gwasanaethau brys, a hybu'r diwydiannau twristiaeth ac amaeth. 

 

Wrth sôn am y cynlluniau, dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth,

Mae'r newydd hwn i'w groesawu yn Sir Gâr, yn enwedig gan fod meddu ar ddarpariaeth ddigidol yn hollbwysig yn y byd sydd ohoni. 
Fel cymdeithas, mae ein defnydd o'r rhyngrwyd yn cynyddu drwy'r amser, felly mae'n hanfodol cael y seilwaith cywir er mwyn i gymunedau gwledig allu ffynnu yn economaidd ac yn gymdeithasol. Rwy'n hyderus bydd y cynlluniau hyn yn diogelu cysylltedd y sir yn y dyfodol ac yn ein cryfhau ar draws ein prif sectorau diwydiant.”


Mae'r effaith amgylcheddol hefyd wedi cael ei hystyried yn ofalus, wrth i weithredwyr ffonau symudol rannu mastiau am y tro cyntaf, yn hytrach na bod mastiau unigol ar gyfer darparwyr gwasanaethau unigol.  Dyma gam cadarnhaol sy'n ceisio cadw'r ôl troed ar ein hamgylchedd lleol mor isel â phosibl, gan ganiatáu i gwsmeriaid o bob rhwydwaith elwa ar yr un pryd.  Wedi'i ychwanegu at hyn, mae'r holl seilwaith a weithredir yn cydymffurfio â'r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw'n Ïoneiddio (ICNIRP), gan sicrhau y cedwir at yr holl safonau lles a diogelwch.

Bydd llawer mwy o safleoedd presennol yn cael eu huwchraddio er mwyn gallu rhannu yn y modd hwn, ac yn ychwanegol at y pedwar ar ddeg o safleoedd newydd arfaethedig, bydd saith arall yn cael eu rhoi gerbron i fod yn rhan o'r broses gynllunio yn 2024. Mae hyn yn golygu gwaredu i raddau helaeth y rhaniad digidol sy'n bodoli yn Sir Gaerfyrddin, gan alluogi cyfran fwy o gymunedau lleol i gysylltu â band eang cyflym iawn lle nad oes band eang ffibr ar gael eto. 

Mae llawer mwy o ardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin na'r siroedd eraill sy'n rhan o ranbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ond yn ogystal â hynny, mae topoleg y tir yn golygu y gall ychwanegu seilwaith newydd achosi cymhlethdodau niferus i brosiectau sy'n rhai anodd eisoes. O ystyried y ffactorau hynny, mae'r buddsoddiad Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn hwb sylweddol i'r sir, a disgwylir i'r ddarpariaeth symudol gynyddu i 99% ar ôl ei gwblhau. 

Mae Cornerstone, sy'n ceisio caniatâd cynllunio ac yn adeiladu'r safleoedd telathrebu ar ran y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.


Dywedodd Belinda Fawcett, Cyfarwyddwr Eiddo ac Ystadau a Chwnsler Cyffredinol Cornerstone,


Fel rhan o brosiect Rhwydwaith Gwledig a Rennir Llywodraeth y DU, sydd werth miliynau o bunnoedd, rydym yn parhau i ddatblygu ein rhwydwaith o orsafoedd i sicrhau bod y seilwaith sydd ei angen ar weithredwyr symudol i wella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig ar gael.  
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio'n agos gyda ni ac wedi darparu adborth hanfodol sydd wedi ein galluogi i ddeall pryderon lleol a mynd i'r afael â'r rhain yng nghamau cychwynnol ein cynlluniau.”

Mae effeithiau cadarnhaol y cynlluniau hyn nid yn unig yn darparu'r buddion cymdeithasol sy'n aml ar goll o ardaloedd gwledig, ond yn gwella'n sylweddol hyrwyddo mewnfuddsoddiad i'r ardal. Drwy greu swyddi, bydd cyfleoedd gwell yn rhoi cymhelliant i bobl ifanc aros yn y sir, gan sicrhau bod gennym dirwedd ddigidol gynhwysol ar draws Sir Gaerfyrddin, sy'n diwallu anghenion pawb. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: broadband@carmarthenshire.gov.uk