Ddydd Mercher 7 Chwefror aethom i ddigwyddiad The Business Hub – Embrace 2024 yn Yr Orendy ym Mharc Gwledig Margam.

Roedd dros 130 o fusnesau o ardal Bae Abertawe wedi cofrestru i fod yn bresennol, ac roedd 20 o stondinau arddangos yno i ni rwydweithio â nhw, gan gynnwys prifysgolion a cholegau, awdurdodau lleol a busnesau amrywiol. Roedd agenda amrywiol o ran siaradwyr gwadd – o ysgogwyr newid i ddoniau lleol ac entrepreneuriaid ysbrydoledig.    

Dechreuodd y digwyddiad gyda chroeso cynnes gan Amy Price, cyfarwyddwr Social Butterfly Marketing a The Business Hub Wales. Yna daeth ein Cyfarwyddwr Portffolio Jon Burnes i’r llwyfan i ddiweddaru'r gynulleidfa ar gynnydd y Fargen Ddinesig, yn ogystal â chrynodeb o brosiectau allweddol sy'n digwydd ar draws y rhanbarth gan gynnwys y Porthladd Rhydd Celtaidd a datblygiadau Canol Dinas Abertawe.

Yna rhannodd Rhian Manning MBE sylfaenydd elusen 2Wish ei stori wirioneddol ysbrydoledig a theimladwy ar sut y sefydlodd yr elusen er cof am ei mab a'i gŵr.

Dilynwyd Rhian gan Lee Morgan o fanc Natwest a roddodd gipolwg ar bŵer meddylfryd a rhaglen Accelerator y banciau, ac yna daeth Paul James o Redkite Solicitors i siarad am risgiau cyfreithiol i fusnesau.

Neil Andrews ddaeth â sesiwn y siaradwyr gwadd i ben drwy roi sgwrs ar bwysigrwydd iechyd a maeth, a sut i greu ffordd iachach o fyw.

Yn dilyn y siaradwyr gwadd, cafodd y mynychwyr gyfle i rwydweithio â'i gilydd a siarad â'r arddangoswyr.

O safbwynt y Fargen Ddinesig, roedd yn gyfle i gyfarfod â sawl busnes diddorol a manteisiwyd ar y cyfle gwych hwn i drosglwyddo straeon newyddion da a hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar ddod.

image