Cliciwch yma i wylio'r fideo

Mae datblygiad swyddfeydd mawr newydd bron â chael ei gwblhau yng nghanol dinas Abertawe, ar safle a oedd yn cynnwys sinema ac yna gyfres o glybiau nos ar un adeg, cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel yn 2016.

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys mannau cyhoeddus arloesol mewnol ac allanol gydag ardaloedd penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod.

Mae'r rhain yn cynnwys 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A, mannau gweithio hyblyg wedi'u gwasanaethu, neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau manwerthu, bwyd a diod.

Mae'r datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn, gyda Bouygues UK yn arwain ar y gwaith adeiladu. Bydd hefyd yn elwa o gysylltedd digidol arloesol.

Ar ôl i'r gwaith adeiladu ddod i ben cyn bo hir, bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg o'r radd flaenaf ar gyfer busnesau sy'n diwallu anghenion amserau modern ac yn darparu lle i hyd at 600 o swyddi mewn sectorau fel technoleg a digidol.

Pan fydd yn weithredol, bydd datblygiad newydd 71/72 Ffordd y Brenin yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae prinder swyddfeydd o safon yn Abertawe, felly bydd y datblygiad hwn yn helpu i ateb y galw, yn annog busnesau presennol i aros yma ac yn denu busnesau newydd i Abertawe.

"Mae'r gwaith adeiladu'n agos at gael ei gwblhau ac mae trafodaethau gyda nifer o denantiaid posib yn parhau.

"Mae'r datblygiad yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn edrychiad a naws Ffordd y Brenin er budd preswylwyr a busnesau lleol, gyda nifer o gynlluniau'r sector preifat hefyd wedi'u cwblhau, yn parhau neu wedi'u cynllunio yn yr ardal hefyd."