Mae'r lluniau newydd hyn yn rhoi cipolwg i chi ar ddatblygiad swyddfeydd newydd pwysig sy'n mynd rhagddo ar hen safle clwb nos Oceana yng nghanol dinas Abertawe.

Mae'r lluniau'n dangos rhai o'r ystafelloedd a fydd yn cael eu trawsnewid cyn bo hir yn ogystal â rhai o'r grisiau, yr ardaloedd cymunedol a'r gwaith gwydro sy'n cael eu gosod yn y cynllun saith llawr.

Mae rhai o'r lluniau'n cynnwys argraffau arlunydd o'r blaendir, gan ddangos sut bydd y mannau hyn yn edrych unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel technoleg, digidol a'r diwydiannau creadigol.

Dan arweiniad Bouygues UK, prif gontractwr y cyngor ar gyfer y cynllun, disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.

Bydd prosiect 71/72 Ffordd y Brenin, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwyddom fod angen swyddfeydd modern, hyblyg yn Abertawe i helpu i gadw ein busnesau yma a denu mwy o fusnesau i fuddsoddi yng nghanol ein dinas yn y dyfodol.

"Bydd y datblygiad newydd mawr hwn yn helpu i ateb y galw hwnnw, gan wella golwg a naws Ffordd y Brenin ymhellach a denu mwy o ymwelwyr a masnach i fusnesau eraill yng nghanol y ddinas.

"Mae cynnydd sylweddol o ran gwaith adeiladu bellach yn amlwg ar y safle, a chyn bo hir bydd y gwaith gosod mewnol yn dechrau."

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, sy'n cael ei ddylunio gan Architecture 00, yn cynnwys mannau cyhoeddus gyda rhannau penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod. Mae'r rhain yn cynnwys dros 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd gradd A, yn ogystal â mannau manwerthu, bwyd a diod, neuadd ddigwyddiadau, lleoedd gweithio hyblyg a wasanaethir.

Bydd y cynllun yn cynnwys paneli solar ar ben yr adeilad yn ogystal â systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni. Bydd hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ddiweddar rydym wedi cynyddu'r gwaith marchnata ar y swyddfeydd a fydd ar gael yn y datblygiad hwn, gan adeiladu ar drafodaethau cadarnhaol, parhaus sydd eisoes yn cael eu cynnal â darpar denantiaid.

"Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn rhan o raglen adfywio gwerth £1bn i drawsnewid canol dinas Abertawe yn lle llawer mwy bywiog i bobl weithio, byw, astudio, mwynhau ac ymweld ag ef."

JLL and Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am gael copi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill â Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com 

 

image