Mae plant a staff yn Ysgol Pen Rhos wedi rhoi sêl bendith ar gynlluniau am Bentref Gwyddor Bywyd a Llesiant yn Llanelli.

Maen nhw'n dweud y bydd y datblygiad £200 miliwn ar gyfer Llynnoedd Delta yn rhoi hwb i ddyheadau pobl ifanc leol oherwydd y swyddi o ansawdd uchel a fydd yn cael eu creu.

Mae canolfan hamdden gwbl fodern yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer y Pentref, a fydd yn agos iawn at adeilad newydd Ysgol Pen Rhos, sydd ar fin cael ei gwblhau, ar hen safle Draka ar Heol Copperworks.

Mae'r ysgol yn cymryd lle Ysgol Gynradd Maes-llyn ac Ysgol Fabanod a Meithrin Copperworks, ac mae adeilad newydd yr ysgol yn cael ei wireddu drwy gyfrwng Rhaglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chyllid gan fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Helen Morgans, Dirprwy Bennaeth Ysgol Pen Rhos: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Ysgol Pen Rhos. Bydd ein hadeilad ysgol newydd yn rhoi amgylchedd a phrofiad dysgu addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i'r disgyblion presennol ac i ddisgyblion y dyfodol, gyda chynlluniau i ddatblygu'r Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant yn agos iawn at yr ysgol.  

"Fel ysgol, rydym yn cefnogi'r Pentref gant y cant oherwydd bydd yn gwella Llanelli, yn creu mwy o gyfleoedd gwaith lleol ac yn codi dyheadau pobl ifanc. Rydym hefyd yn Ysgol sy'n Ymwybodol o Ymlyniad, lle mae grwpiau meithrin yn eu lle i gefnogi plant sydd wedi dioddef trawma, felly rydym yn gefnogol iawn i'r modd y mae'r prosiect yn canolbwyntio ar lesiant.  

"Roedd nifer o blant o flynyddoedd pump a chwech wedi cymryd rhan mewn ymarfer ymgynghori ynghylch y prosiect ddiwedd y llynedd, lle roeddent yn gallu rhoi adborth ar yr hyn yr hoffent ei weld ar y safle."

Mae cynllun y Pentref yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r datblygiad hefyd yn rhan o raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn ac sy'n cynnwys 11 o brosiectau mawr ledled Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu'r cais i sicrhau buddsoddiad o £40 miliwn ar gyfer y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant fel rhan o'r rhaglen hon.

Bydd Ysgol Pen Rhos yn ysgol gynradd ddwyieithog, ddwy ffrwd newydd, sy'n cynnig addysg yn y Saesneg neu'r Gymraeg i blant rhwng 3 ac 11 oed.

Rhai o'r syniadau oedd gan y disgyblion ar gyfer safle'r Pentref oedd pwll nofio, gwasanaethau iechyd i'r henoed a phobl agored i niwed, a llecynnau wedi'u tirlunio ar gyfer hamddena a gwneud gweithgareddau. Bydd yr holl nodweddion hyn yn cael eu cynnwys, ynghyd â chyfleoedd ymchwil a busnes, addysg a llety byw â chymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'n galonogol iawn bod y plant a'r staff yn Ysgol Pen Rhos mor frwdfrydig dros y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant. Bydd y prosiect hwn yn rhoi hwb o £467 miliwn i'r economi leol ac yn creu hyd at 2,000 o swyddi sy'n talu'n dda dros 15 mlynedd, felly mae'n bwysig nid yn unig i Lanelli, ond hefyd i Sir Gaerfyrddin a Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel ei gilydd.

"Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, mae disgwyl y bydd gwaith ar y prosiect yn dechrau ddiwedd 2018, ac mae'r cam cyntaf wedi cael ei glustnodi i agor yn 2021. Bydd cynaliadwyedd wrth wraidd y cynllun, a bydd pwyslais ar sicrhau bod y datblygiad yn gydnaws â chymeriad yr ardal gyfagos."

Fel pob prosiect sy'n cael ei gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Pentref yn elwa ar fenter sgiliau a thalentau a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol gael y swyddi o werth uchel a fydd yn cael eu creu.