Mae gwaith ar gyfadeilad arena ddigidol yr edrychir ymlaen yn eiddgar ato'n datblygu'n unol â'r amserlen.

Bwriedir dechrau'r prif waith adeiladu ar y cynllun adfywio sylweddol - o'r enw Cam Un Abertawe Ganolog - yng nghanol y flwyddyn nesaf.

Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd 2020, gyda'r arena gyfoes â lle i 3,500 o bobl yn agor yn y  misoedd canlynol.

Mae gwaith ar y dyluniadau manwl terfynol yn mynd rhagddo; disgwylir i waith gwella paratoadol ar Stryd Wellington ailgychwyn yn y flwyddyn newydd, ac mae'r gweithredwr lleoliadau sy'n flaenllaw ar draws y byd, Ambassador Theatre Group, wedi cytuno i reoli'r arena.

Bydd gwaith cynnar ar y prif safle'n dechrau ym mis Ionawr a bydd yn caniatáu i'r prif waith adeiladu ddechrau mewn pryd yng nghanol y flwyddyn.

Daw'r diweddariadau hyn mewn adroddiad a fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Abertawe'r wythnos nesaf (sylwer: 29 Tachwedd).

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r datblygiad hwn - sy'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi hwb o dros £70m y flwyddyn i'n heconomi leol - yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad.

"Bydd Cam Un Abertawe Ganolog yn helpu i drawsnewid y ddinas ac yn creu atyniad a chyrchfan penigamp ar gyfer cyngherddau, teithiau, cynadleddau a digwyddiadau."

Bydd Cam Un Abertawe Ganolog yn cynnwys yr arena, gyda ffasâd digidol, sgwâr digidol, lle parcio ceir, parcdir arfordirol, unedau masnachol, unedau preswyl a phont lydan i gerddwyr ar draws Heol Ystumllwynarth.

Mae'r arena hefyd yn un elfen o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau y disgwylir iddo gael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.