Croesawodd Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr ymwelwyr i seremoni ‘gosod y brig’ swyddogol safle mawreddog Pentre Awel wrth i’r strwythur dur terfynol gael ei gwblhau.

Ymunodd Fay Jones, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, ag uwch swyddogion o Gyngor Sir Gâr, yn ogystal â chynrychiolwyr o Bouygues UK ac isgontractwyr lleol i lofnodi’r ffrâm ddur, sy’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn y prosiect, gan ei fod yn cynrychioli cwblhau’r ffrâm ddur strwythurol ar gyfer pob un o'r pum adeilad sy’n ffurfio Parth 1.

Mae’r datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr, a bydd yn dod ag arloesedd ym maes gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), a dyma’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

Meddai Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK ym Mhentre Awel:
"Mae Bouygues UK yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Gâr ar y prosiect nodedig hwn. Roedd yn bleser croesawu’r Gweinidog, Cynghorwyr, a swyddogion i’r safle er mwyn iddynt weld y cynnydd gwych sy’n cael ei wneud. Mae hon yn garreg filltir adeiladu fawr ym Mhentre Awel ac yn un gyffrous gan y gallwn ddechrau gweld y strwythur yn datblygu.

Mae’r seremoni gosod y brig yn gyfle i ni fel y prif gontractwr ddiolch i'n tîm ar y safle, yn ogystal â’r isgontractwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i’n galluogi i gyrraedd y cam hwn. Mae gweithio gyda’r isgontractwyr lleol hyn wir wedi rhoi ymdeimlad o waith tîm a chymuned i brosiect Pentre Awel, a hir y parhao.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price,
"Roedd yn fraint mynychu digwyddiad Gosod y Brig ym Mhentre Awel heddiw. Roeddwn i’n gallu gweld â’m llygaid fy hun y gwaith caled a wnaed gan bawb sy’n gweithio ar y safle. Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi cadwyn gyflenwi Cymru, gan gynnwys busnesau lleol ar bob cam o’r datblygiad, gan greu cyfleoedd gwaith, prentisiaethau a lleoliadau gwaith newydd yn Sir Gâr yn eu tro. Roedd yn wych gweld ystod eang o sefydliadau partner yn bresennol heddiw wrth i Bentre Awel anelu at ddod â rhanddeiliaid o’r sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ynghyd i fynd i’r afael â materion dybryd o ran iechyd a lles y boblogaeth, addysg ac ymchwil. Rwyf yn llongyfarch pawb a fu’n ymwneud â’r prosiect am gyrraedd y garreg filltir aruthrol hon heddiw."

Ychwanegodd y Cyngh. Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
"Mae prosiectau o'r maint a'r uchelgais hwn yn brin ac mae wedi bod yn gyfle y mae Sir Gâr wedi'i fwynhau. Parth 1 yw canolbwynt y datblygiad i raddau helaeth, felly roeddwn yn falch iawn o ddathlu’r cam hwn yn y prosiect gyda Bouygues UK, sefydliadau partner, rhanddeiliaid a’r gadwyn gyflenwi. Mae Pentre Awel wrth galon y gymuned; dangoswyd hynny gan y gwaith y mae Bouygues UK yn ei wneud mewn cymunedau, yn ymgysylltu â disgyblion ysgol a phobl leol ynghylch yr hyn y gall Pentre Awel ei gynnig iddynt, a fydd yn parhau y tu hwnt i agor Parth 1. Da iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yma.”

Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones,
"Roeddwn yn falch iawn o fod ym Mhentre Awel a gweld y cynnydd sydd wedi’i wneud wrth gyflawni’r prosiect gwych hwn. Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd Pentre Awel yn ganolfan ragoriaeth flaenllaw ar gyfer ymchwil feddygol a darparu gofal iechyd, gan helpu i wella iechyd a lles pobl ddi-rif."

A bydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi ac yn rhoi hwb o gannoedd o filiynau o bunnoedd i’r economi leol dros ei oes. Dyna pam mae Llywodraeth y DU yn falch o weithio gyda’n partneriaid a buddsoddi mewn prosiectau fel y rhain, a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi:
"Mae Pentre Awel yn brosiect hynod gyffrous ac uchelgeisiol ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i'w ariannu. Mae'n cefnogi ein cenhadaeth i gael economi ffyniannus, wyrddach a thecach yng Nghymru, wedi'i seilio ar gael economïau rhanbarthol cryfach. Bydd y datblygiad arloesol hwn yn Sir Gaerfyrddin yn dod â swyddi medrus iawn o ansawdd uchel yn nes at gartrefi pobl, yn ogystal â darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf y bydd pobl o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn gallu elwa arnynt."

Mae Bouygues UK wedi ymrwymo i ddefnyddio isgontractwyr lleol fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae Dyfed Steels yn darparu’r bar atgyfnerthu ar gyfer sylfeini’r prosiect sydd â 98% o gynnwys wedi’i ailgylchu, ac mae Shufflebottom yn darparu’r dur strwythurol ar gyfer yr adeilad, sydd â 80% o gynnwys wedi’i ailgylchu. Gydag ymrwymiad i dreftadaeth yr ardal, mae'r ffrâm ddur hefyd yn darparu cyswllt hanesyddol i'r adeiladau diwydiannol blaenorol a leolwyd ar y safle. Mae'r rhain yn cynnwys Gweithfeydd Tunplat De Cymru a Melinau Richard Thomas (Tunplat).

Yn ogystal â Shufflebottom a Dyfed Steels, mae cwmnïau eraill sydd wedi’u contractio i weithio ar Bentre Awel yn cynnwys: Green4Wales, Redsix Partnership, Gavin Griffiths Group, Davies Crane hire, Dyfed Recycling Services ac Owen Haulage.

Mae Bouygues UK hefyd wedi rhoi lleihau carbon, cynaliadwyedd a’r amgylchedd wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud ar y safle yn Llanelli, sydd wedi arwain at gynnydd net o 137% mewn bioamrywiaeth a hefyd gostyngiad o 18.4% mewn arbedion carbon. Mae tîm y prosiect wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys swyddogion ecoleg Cyngor Sir Gâr a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau nad yw’r datblygiad yn effeithio ar yr ecoleg a’r cyrff dŵr o amgylch y safle.

Mae paneli solar wedi'u gosod ym mhob un o swyddfeydd a chabanau'r safle yn ogystal â'r system teledu cylch cyfyng. Pan nad ydynt yn cael eu pweru gan yr haul, maent yn trosi i eneradur olew llysiau wedi'i drin â dŵr (HVO). Mae safle prosiect Pentre Awel wedi ei drosi’n gyfan gwbl i danwydd HVO. Gan weithio gyda’r contractwr Alun Griffiths, mae wedi dod o hyd i ddarparwr tanwydd HVO lleol, ac er bod HVO yn ddrytach na diesel gwyn, gall leihau allyriadau carbon hyd at 90%, ac felly mae wedi’i fabwysiadu 100% ar gyfer Pentre Awel.

Fel rhan o ymrwymiad Bouygues UK i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol ac ymgysylltiad i ysgolion, colegau a phrifysgolion cyfagos, mae gan Bentre Awel gynllun cenhadon ysgol hefyd, lle mae plant o ysgolion lleol yn ymweld â’r safle i rannu eu syniadau a helpu i lunio’r prosiect. Mae hyn yn ei dro yn eu galluogi i weld drostynt eu hunain y gwaith sy'n mynd i mewn i'r broses adeiladu. Mae'r plant yn ymweld â'r safle yn rheolaidd i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ac yn gweithio ar brosiectau ysgol sy'n canolbwyntio ar adeiladu.

Mae rhaglen ehangach o fuddion cymunedol hefyd yn cael ei darparu yn ystod datblygiad Parth 1 Pentre Awel er mwyn gwireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu, ymgysylltu â’r gymuned (fel cenhadon cymunedol), gweithgareddau STEM ac ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi.

 

image