Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb ar gyfer ail gylch cyllido oddi wrth y Gronfa Ddatblygu Eiddo (PDF) sy’n canolbwyntio ar ardal ddeinamig Glannau Port Talbot, sy’n cwmpasu Glan yr Harbwr, Parc Ynni Baglan ac Ystâd Ddiwydiannol Baglan.

Mae’r PDF yn fenter strategol â’r bwriad o hybu datblygu drwy ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer adeiladu neu adnewyddu adeiladau o safon uchel i’w defnyddio i bwrpasau diwydiannol a masnachol.

Gyda sylw arbennig ar y sectorau ymchwil, datblygu ac arloesi, ei nod yw gyrru twf economaidd ar draws y rhanbarth, a chreu a gwarchod swyddi.

Mae’r PDF, a gynlluniwyd yn benodol i bontio’r bwlch ariannol rhwng costau adeiladu a gwerth marchnad eiddo a gwblhawyd, yn offeryn hanfodol ar gyfer meithrin twf busnesau newydd a chynhenid.

Sicrhaodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot werth £4.5m o gyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer y prosiect, ar yr amod bod buddsoddiad sector preifat o £5.5m hefyd.

Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod gan y fenter sail ariannol gref a chynaliadwy. Mae’r broses ymgeisio am grant ar agor nawr, a dyddiad cau mynegi diddordeb yn y cylch cyllido hwn yw 31 Rhagfyr 2023.

Gall unrhyw un â diddordeb ofyn am ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI) drwy e-bostio pdf@npt.gov.uk.

Pe bai’r EOI yn cael ei chymeradwyo, gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cais cam cyntaf, gyda dyddiad cau o 23 Chwefror 2024.

Ariennir y PDF, sy’n dod i gyfanswm o £10m ac a agorodd gyntaf yn 2022, yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy’i Rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, gwerth £58.7m, ac mae’n elfen allweddol ym mhrosiect buddsoddi rhanbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ymysg y deilliannau a ragwelir ar gyfer ail gylch yr arian PDF mae creu 6,000 metr sgwâr o eiddo fydd yn cynhyrchu tua 100 o swyddi ac yn diogelu 400 o swyddi.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y Cynghorydd Jeremy Hurley: “Mae’r fenter hon yn dyst i ymrwymiad y cyngor i greu amgylchedd busnes ffyniannus a chynaliadwy yn y rhanbarth.

“Mae’n alinio gydag ymrwymiad y cyngor i feithrin datblygiadau economaidd a gwella ardal Glannau Port Talbot drwy gryfhau atyniad y lle fel cyrchfan ar gyfer byw a gweithio.

“Mae hefyd yn cyd-fynd â’n strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) am fod y gronfa wedi’u hanelu at y sectorau ymchwil, datblygu ac arloesi, a fydd yn helpu ein nod o leihau allyriadau carbon.”

I gael mwy o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen Mynegi Diddordeb, cysylltwch os gwelwch yn dda â pdf@npt.gov.uk.

image