Cynhaliodd Cyngor Sir Gâr a Bouygues UK, sydd wrthi’n darparu’r datblygiad mawreddog newydd, Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd, ddigwyddiad yn null Dragon’s Den i ddathlu eu cynllun profiad gwaith sgiliau’r 21ain Ganrif.

Cymerodd pum ysgol leol yn Llanelli - Ysgol Bryngwyn, Ysgol Coedcae, Ysgol Pen Rhos, Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd ac Ysgol Y Strade – ran yn y digwyddiad a oedd â’r nod o rymuso dysgwyr i ddarganfod gyrfaoedd ym meysydd adeiladu a dylunio, sef penllanw 12 wythnos rhaglen ddysgu a mentora yn seiliedig ar fyd adeiladu.

Pan lansiwyd y cynllun ym mis Mai 2023, cafodd pob ysgol frîff i ddylunio gweithle cydweithredol, a oedd yn cyd-fynd ag ethos Pentre Awel, sef arloesi, iechyd a lles cadarnhaol a dylunio sy'n amgylcheddol gynaliadwy. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cawsant eu mentora gan staff Bouygues UK a chawsant sawl ymweliad â’r safle i ddatblygu eu briffiau dylunio a’u helpu i baratoi ar gyfer eu cyflwyniad terfynol gerbron panel o feirniaid. Roedd y panel beirniadu’n cynnwys grŵp amrywiol o weithwyr proffesiynol o Bouygues UK, Cyngor Sir Gâr a Gleeds Project Consultancy.

Dim ond 10 munud oedd gan y disgyblion i wneud eu gorau glas a dangos eu dyluniadau terfynol, gan gynnwys eu taith ddatblygu ac enghreifftiau o sut roedd eu mentoriaid wedi’u helpu ar hyd y ffordd. Roedd pob ysgol yn gyfrifol am eu sesiwn gwerthu syniadau a sut roeddent am wneud cyflwyniad i’r panel; ysgrifennodd rhai ohonynt ddogfennau gwerthu syniadau ychwanegol i ategu eu cyflwyniad, cyflwynodd rhai ohonynt fodelau 3D, a dangosodd eraill amlinelliadau digidol o’u dyluniadau. Daeth un grŵp â chasgliad o blanhigion i ddangos eu cynllun wal bioffilig.

Roedd y dyluniadau ar y diwrnod mor drawiadol nes i'r beirniaid ei chael hi'n anodd dewis un ysgol fel enillydd cyffredinol; coronwyd Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd ac Ysgol Y Strade yn gyd-enillwyr, ac enillodd Ysgol Gynradd Pen Rhos y wobr arloesi/cynaliadwyedd am eu dyluniad bioffilig a’u syniadau ar gyfer dal carbon.

Meddai Nina Williams, cynghorydd gwerth cymdeithasol Bouygues UK ar gyfer Pentre Awel: “Roedd y mewnbwn gan yr holl ysgolion yn rhagorol, gyda rhai dyluniadau a chysyniadau anhygoel yn seiliedig ar y pedair thema. Y rhan fwyaf boddhaus fu'r ffordd y mae'r dysgwyr wedi magu hyder.

“Ar ddechrau’r profiad, roedden nhw i gyd yn nerfus iawn wrth ofyn cwestiynau, gyda’r mentoriaid yn anghyfarwydd iddyn nhw, ond erbyn iddyn nhw baratoi ar gyfer eu cyflwyniad olaf, roedden nhw’n gweithio o gwmpas y ford, yn ferw o syniadau, yn gwrando ar syniadau’r mentor, ac yn cael sgyrsiau am sut i newid a gwella eu dyluniadau. Mae'r prosiect wedi helpu'r ysgolion i feithrin perthnasoedd â diwydiannau yn y dyfodol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad gweithwyr proffesiynol i wella a datblygu eu sylfaen wybodaeth y gellir ei defnyddio wrth ddylunio’r cwricwlwm yn y dyfodol.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Peter Sharpe: “Mae wedi bod yn braf iawn cymryd amser o’m gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd i wrando ar y pum cyflwyniad. Roedd y wybodaeth a dyfnder y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r briff yn hollol wych. Rwy’n siŵr y bydd rhai agweddau ar ddyluniadau’r dysgwyr y gallen ni eu hymgorffori yn yr adeilad. Mae prosiect fel hwn o werth mawr i fyd adeiladu.”

Ychwanegodd Aeron Rees, Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr Cyngor Sir Gâr: “Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint bod yn rhan o’r panel beirniadu. Roedd y bobl ifanc wedi'u harfogi eu hunain yn dda iawn ac roeddent yn ysbrydoledig yn yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud a'r hyn yr oeddent yn ei gyflwyno. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r synergedd rhwng y gymuned fusnes ac addysg, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Bouygues UK a’n cydweithwyr yn y cyngor am hwyluso hyn i’n dysgwyr.”

Fel rhan o ymrwymiad Bouygues UK i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol ac ymgysylltiad i ysgolion, colegau a phrifysgolion cyfagos, ceir cynllun cenhadon ysgolion hefyd. Mae Bouygues UK yn awyddus i’r plant rannu eu syniadau a helpu i lunio’r prosiect, a fydd yn ei dro yn eu galluogi i weld drostynt eu hunain y gwaith sy’n mynd i mewn i’r broses adeiladu. Bydd y plant yn ymweld â'r safle yn rheolaidd i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud a byddant yn gweithio ar brosiectau ysgolion sy'n canolbwyntio ar adeiladu.

Mae menter Sgiliau'r 21ain Ganrif yn rhan o raglen ehangach o fuddion cymunedol i'w darparu yn ystod datblygiad Parth 1 Pentre Awel er mwyn gwireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu, ymgysylltu â’r gymuned, gweithgareddau STEM ac ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi.

Mae Pentre Awel yn gynllun gwirioneddol gydweithredol sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol gan Gyngor Sir Gâr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a cholegau ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn). Ei nod yw creu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb o fwy na £450m i’r economi leol.

Bydd y datblygiad yn cynnwys canolfan hamdden a phwll hydrotherapi newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a chyflawni clinigol; a chanolfan sgiliau lles. Y tu allan, bydd gan Bentre Awel fannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, cerdded a beicio.

 

image