Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi dathlu llwyddiant drwy gydol 2023 wrth gyrraedd cerrig milltir allweddol a gweld y gwaith o gyflawni prosiectau'n cyflymu ledled De-orllewin Cymru, trwy ei phortffolio o naw prif brosiect a rhaglen.

Amcangyfrifir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn denu tua £1.3 biliwn o fuddsoddiad erbyn 2033, ac mae'n bortffolio unigryw o brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Drwy gydweithio ar draws siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, bydd y Fargen Ddinesig yn creu dros 9,000 o gyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda ac yn helpu adferiad economaidd drwy gyfrannu dros £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol. Ynghyd â mentrau eraill sydd ar y gweill ar draws y rhanbarth, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Bro a'r cais Porthladd Rhydd Celtaidd llwyddiannus, bydd yn helpu i drawsnewid ardaloedd trefol a gwledig De-orllewin Cymru yn lleoedd lle gall busnesau dyfu a thrigolion ffynnu.  

Mae'r tri phrosiect rhanbarthol hefyd wedi bod yn gwneud cynnydd da. Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalentau bellach wedi cymeradwyo 17 o brosiectau peilot, lle mae ein hysgolion, colegau, prifysgolion, awdurdodau lleol a chwmnïau sector preifat yn cydweithio i ddarparu sgiliau/hyfforddiant i bobl ifanc mewn sectorau fel Digidol, Gweithgynhyrchu Clyfar ac Adeiladu Gwyrdd. Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (HAPS), sy'n galluogi dyluniadau ynni-effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi, wedi lansio ei Gronfa Cymhellion Ariannol ac wedi gosod technolegau ynni-effeithlon mewn 200 o gartrefi HAPS, sy'n gyfanswm buddsoddiad o £42m. Parhaodd y rhaglen Seilwaith Digidol i wella'r dirwedd ddigidol, gan ragori o £14.56m ar ei disgwyliadau buddsoddi yn y sector preifat, a dechrau'r Gronfa Arloesi 5G.

Mae'r chwe phrosiect sydd mewn lleoliad penodol hefyd yn gwneud cynnydd da ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein rhanbarth. Dathlodd Yr Egin, canolfan i'r sector digidol a chreadigol yng Nghaerfyrddin, ei phumed flwyddyn drwy ddigwyddiad pen-blwydd a gynhaliwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hefyd yn Sir Gaerfyrddin mae'r gwaith o adeiladu prosiect Pentre Awel, sydd werth miliynau o bunnoedd, ar y trywydd iawn, ac mae maint a graddfa Cam Un yn amlwg o weld y gwaith tir sydd wedi'i gwblhau a'r strwythur dur yn ei le.

Dathlodd Arena Abertawe ei blwyddyn lawn gyntaf ac mae cannoedd o filoedd o ymwelwyr wedi bod yno ar gyfer perfformiadau mawr, cynadleddau, digwyddiadau a seremonïau graddio. Mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar ddatblygu swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin Cyngor Abertawe a phrosiect Matrics Arloesi y Drindod Dewi Sant yn SA1. Mae'r prosiect Campysau, sydd hefyd yn Abertawe, wedi meithrin perthynas bwysig â chwmnïau yn y sector iechyd a llesiant, yn barod ar gyfer caffael. Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae'r prosiect hefyd wedi defnyddio'r cyfleoedd ariannu sydd ar gael ar gyfer prosiect peilot Sgiliau a Thalentau ac wedi derbyn £1.5 miliwn gan Gronfa Arloesi 5G y rhaglen Seilwaith Digidol. 

Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran adnewyddu'r Rhandai Awyrendai Hanesyddol, adeiladu'r llithrfa a'r pontŵn, a datblygu lle storio helaeth, gydag elfennau o'r tri wedi'u cwblhau yn ôl yr amserlen. 

Yn olaf, mae'r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gweld ei Chanolfan Technoleg y Bae arobryn yn agor ac wedi adolygu ceisiadau i'w Chronfa Datblygu Eiddo. Mae hefyd wedi penodi contractwr ar gyfer ei phrosiect SWITCH ac wedi dechrau gosod ei Electroleiddiwr Hydrogen 100kW newydd yng Nghanolfan Hydrogen Baglan.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o daith y Fargen Ddinesig yn ystod 2023 a'r cydweithio fu ynghlwm wrth hynny. Mae'r cynnydd sydd wedi digwydd wedi bod yn wych ac yn dyst i'n hymrwymiad i gyflawni. Mae pob prosiect sy'n rhan o'r portffolio wedi cymryd camau breision ymlaen o ran twf economaidd ein rhanbarth a siapio'r dyfodol i bawb.

“Mae 2024 yn mynd i fod yn gyffrous, wrth i ragor o fentrau gael eu hadeiladu a'u cyflawni, fel cwblhau 71/72 Ffordd y Brenin, y Matrics Arloesi, Cam 1 Pentre Awel a chwblhau gwaith adnewyddu mawr ym Mhorthladd Penfro. Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau, gan eu helpu i leoli a thyfu yn ein rhanbarth. Bydd hyn, ynghyd â mentrau trawsnewidiol cyffrous eraill sy'n digwydd ledled De-orllewin Cymru, yn anfon neges glir i'n partneriaid ein bod yn ffynnu ac yn barod i gydweithio ar gyfer ein heconomi a'n pobl”.

image