Mae eisiau manwerthwyr ar gyfer nifer o unedau newydd a fydd yn rhan o ddatblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.

Bydd sawl uned fanwerthu sy'n mesur rhwng 500 troedfedd sgwâr a 2,500  troedfedd sgwâr wedi'u lleoli ar lefel y stryd, yn wynebu Ffordd y Brenin.

Mae angen gweithredwyr hefyd ar gyfer siop goffi y tu mewn i'r adeilad, yn ogystal ag ar gyfer y lle pen to.

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, a fydd yn darparu lle ar gyfer rhyw 600 o swyddi, yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.
Mae Bouygues UK, sy'n arwain ar adeiladu'r datblygiad, yn rhagweld y caiff ei gwblhau cyn bo hir, a bydd y gwaith dodrefnu mewnol yn dilyn yn y misoedd sy'n dod.

Mae sawl tenant posib wedi dangos cryn ddiddordeb yn y lleoedd sydd ar gael, ac mae nifer o gynigion byw ar hyn o bryd. Mae trafodaethau cadarnhaol ynghylch cymryd lleoedd gwaith ar gyfer y rhan fwyaf o'r adeilad yn parhau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y datblygiad hwn sy'n dod yn ei flaen ar safle a fu'n dwll yn y ddaear yn dilyn dymchwel hen glwb nos Oceana, yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe unwaith y mae'n weithredol.

"Bydd yn diwallu angen lleol am swyddfeydd hyblyg o ansawdd uchel wrth gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas a gwariant oherwydd y cannoedd o bobl a fydd yn gweithio yno.

"Rydym yn gweld galw da am y swyddfeydd ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi rhai gosodiadau maes o law. Mae cyfleoedd hefyd i fanwerthwyr a gweithredwr siop goffi ac ardal pen to i fod yn rhan o'r datblygiad hefyd, felly byddem yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb i gysylltu â ni."

JLL and Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am gael copi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill ai Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com

Mae gwefan newydd ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin hefyd ar gael yn awr yn www.7172thekingsway.com/cy/

 

image