Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer yr adeilad tri llawr, a fydd yn darparu swyddfeydd hyblyg ar gyfer cwmnïau newydd a busnesau lleol. 

Bydd y cyfleuster newydd yn ategu'r adeilad presennol cyfagos sef Canolfan Arloesi Bae Baglan, a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar y sectorau ynni adnewyddadwy - yn arbennig hydrogen - gan alluogi arloesedd ac ymchwil a datblygu. Bydd yr ynni gormodol o'r adeilad, a ddarperir gan dechnolegau ynni'r haul a thechnolegau adnewyddadwy eraill, yn cael ei drosi'n hydrogen yn y Ganolfan Hydrogen gerllaw i'w ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen.

Mae Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe yn un o nodweddion prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel gwerth £58.7 miliwn a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe ymhlith nifer o brosiectau a fydd yn helpu economi Castell-nedd Port Talbot ac economïau rhanbarthol i adfer yn sgil Covid-19 drwy gefnogi cyflogaeth mewn sectorau twf lle mae galw amlwg am le busnes o safon uchel.

"Mae'r adeilad sy'n effeithlon o ran ynni hefyd yn rhan o strategaeth datgarboneiddio Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn ogystal â'n cefnogi adferiad gwyrdd yn sgil yr argyfwng Coronafeirws ac yn cyfrannu at dargedau lleihau carbon rhanbarthol, cenedlaethol a'r DU gyfan.

"Mae hwn yn gam pwysig ar gyfer Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe, sy'n rhan o brosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel y Fargen Ddinesig, sydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol."

Mae nodweddion eraill y prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yn cynnwys:

Amcangyfrifir y bydd y prosiect Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ardal harbwr Port Talbot, werth £6.2 miliwn y flwyddyn i'r economi leol ar ôl i'r holl brosiectau gael eu rhoi ar waith. Bydd dros 1,300 o swyddi yn cael eu creu neu eu diogelu, a bydd o leiaf 30% o'r rhain yn newydd.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r rhaglen fuddsoddi hon gwerth £1.8 biliwn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi yn y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.