Cyrhaeddodd y contractwyr ddydd Mercher 15 Mai i baratoi'r ffordd ar gyfer y prif waith adeiladu ar yr arena â 3,500 o seddi ar safle gerllaw i'r Ganolfan Hamdden yng nghanol y ddinas.
Yr arena dan do ddigidol yw un o nodweddion prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd i'w ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn.
Mae Buckingham Group Contracting Ltd wedi'i benodi i adeiladu'r arena, ac mae Ambassador Theatre Group wedi'i benodi'n weithredwr y lleoliad pan fydd yr atyniad yn weithredol.
Bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys codi palisiau diogelwch a chynnal profion ar y clawdd pridd hir gerllaw i hen wal y rheilffordd sy'n gwahanu'r safle oddi wrth y Marina. Maes o law, bydd y clawdd pridd yn cael ei waredu ond bydd y wal gerrig hanesyddol yn aros er mwyn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall pwysigrwydd y rheilffordd i Abertawe yn y gorffennol.
Bydd yr arena dan do ddigidol yn cael ei hagor ac yn weithredol erbyn dechrau 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae hwn yn achlysur pwysig wrth i ni gyflawni prosiect a fydd yn gatalydd ar gyfer trawsnewidiad a llwyddiant canol dinas Abertawe ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'r ffaith fod Buckingham Group Contracting wedi symud i'r safle yn dangos bod prosiect yr arena'n prysuro ddatblygu. Mae hyn yn dipyn o gam i Abertawe - diwedd yr argraffiadau arlunydd a dechrau'r tirnodau newydd."
Mae nodweddion eraill prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn cynnwys pentref digidol ar Ffordd y Brenin ar gyfer busnesau technolegol, a datblygiad pentref blychau a rhodfa arloesi ar gyfer cwmnïau newydd ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1.
Argymhellodd adolygiad annibynnol diweddar o Fargen Ddinesig Bae Abertawe fod prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn cael ei gymeradwyo ar unwaith. Argymhellodd yr adolygiad hefyd fod prosiect hwb creadigol 'Yr Egin' yng Nghaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo ar unwaith.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn nifer o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe – sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.