Mae gwaith rheoli tir wedi dechrau yn Noc Penfro gan nodi dechrau cyfnod pwysig arall ym mhrosiect gwerth £60 miliwn Ardal Forol Doc Penfro. Mae’r contractwyr, Walters Group, wedi symud i’r safle gyda’r dasg o greu gofod gosod a storio 17,000 metr sgwâr erbyn diwedd 2024.

Mae’r gofod gosod a storio yn cyd-fynd â’r gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud gan BAM Nuttall i greu llithrfa enfawr newydd a phontynau cychod gweithio newydd, yn ogystal â chyfleusterau swyddfa ar safle sy’n cael eu hadeiladu gan R&M Williams. Mae’r cyfleusterau a’r gofodau newydd hyn yn rhan allweddol o ehangu cynnig Sir Benfro ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol a diwydiannau ynni morol.

Yn ystod oes y gwaith, mae Walters Group yn gobeithio creu tair swydd lawn amser, gan gynnwys prentisiaeth beirianneg, pum lleoliad gwaith ac un lleoliad graddedig, a byddant yn ymgysylltu ag ysgolion lleol i addysgu ac ysbrydoli disgyblion am yrfaoedd o fewn y diwydiant adeiladu.

Meddai Jason Hester, Uwch Reolwr Prosiect Porthladd Aberdaugleddau: “Mae’n wych bod Ardal Forol Doc Penfro yn cymryd camau mor fawr ymlaen. Mae creu 17,000 metr sgwâr o ofod gosod a storio yn golygu y gallwn ymdopi â dyfeisiau a llongau llawer mwy yn fuan. Rydym ni am gefnogi’r diwydiant gwynt alltraeth arnofiol sy’n mynd o nerth i nerth a’i gadwyn gyflenwi er mwyn i gwmnïau allu aeddfedu ac elwa ar ein lleoliad sydd mor agos i’r Môr Celtaidd.” Ychwanegodd, “Mae Ardal Forol Doc Penfro yn gyfle unigryw ac arwyddocaol i’r rhanbarth wneud cyfraniad allweddol at gyrraedd targedau Sero Net.”

Meddai Rheolwr Prosiect Grŵp Walters, Gerrard Northey: “Dyma gyfle gwych i Walters Group gydweithio â Phorthladd Aberdaugleddau i greu cyfleuster pwysig drwy waith adfer a gofod gosod a storio ar gyfer datblygiad arloesol y Porthladd yn y dyfodol. Mae Walters Group hefyd yn dod â gwledd o arbenigedd a phrofiad ym maes peirianneg a fydd yn cynorthwyo’r Porthladd i gyflawni ei nodau yn y pen draw, sef bod yn geffyl blaen ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol a gwaith morol.”

Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd Ardal Forol Doc Penfro yn creu canolfan peirianneg forol gyda’r gorau yn y byd a dylai greu oddeutu 1,800 o swyddi medrus iawn gydol y flwyddyn, ynghyd â chreu cyfleoedd eang ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol.

Meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae’r cyhoeddiad hwn i ddatblygu capasiti yn Noc Penfro yn dystiolaeth bellach o’r momentwm adeiladu sydd wrth wraidd diwydiant ynni gwyrdd sy’n datblygu’n gyflym yn Sir Benfro.” Ychwanegodd, “Mae’n hanfodol sicrhau ein bod yn rhoi Sir Benfro a rhanbarth De Orllewin Cymru yn ganolog yn ymdrech ynni adnewyddadwy Cymru a byddwn yn dal ati i fuddsoddi i’r perwyl hwnnw.”

Meddai Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Rydym ni’n croesawu’r Walters Group i gydweithio â ni ar y datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn Noc Penfro a fydd yn adfywio ardal y porthladd, ynghyd â chefnogi ymhellach y cynnig dros wynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. Mae’r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd pwysig ym mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro drwy greu cyfleoedd cyflogaeth lleol, seilwaith i gefnogi’r economi las-wyrdd a’i uchelgais i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro a fydd nid yn unig o fudd i’r sir, ond hefyd i holl ranbarth y Fargen Ddinesig ac i Gymru gyfan.”

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei chyllido gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

image