Mae Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe bellach wedi cymeradwyo cyflwyno’r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i’w gymeradwyo’n derfynol.

Bydd y dechnoleg effeithlonrwydd ynni yn cael ei hôl-osod mewn 7,000 o gartrefi ledled y Dinas-ranbarth fel rhan o'r prosiect, a bydd 3,300 yn rhagor o dai newydd hefyd yn elwa ar hyn.

Bydd y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, sy'n werth £505 miliwn, yn gwella iechyd a llesiant y preswylwyr yn ogystal â rhoi hwb i fusnesau cadwyni cyflenwi rhanbarthol.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n arwain y prosiect gan ategu ei Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy. Bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer hefyd yn rhan o ymateb rhanbarthol i ddatganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill, 2019.

Ceisir buddsoddiad o £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe er mwyn sefydlu tîm prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, yn ogystal â chronfa cymhellion ariannol ranbarthol a chronfa datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol.

Byddai buddsoddiad gan y Fargen Ddinesig hefyd yn galluogi gwaith monitro a gwerthuso manwl o ran y technolegau effeithlonrwydd ynni sy'n cael eu cyflwyno, a bydd gweddill cyllid y prosiect yn dod o'r sector preifat a rhaglenni eraill y sector cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Dyma gam arall ymlaen i Gartrefi yn Orsafoedd Pŵer, wedi i’r pedwar awdurdod lleol rhanbarthol arall gymeradwyo achos busnes y prosiect.

“Bydd y dechnoleg effeithlonrwydd ynni sy’n rhan o’r rhaglen tai newydd ac ôl-osod  hon yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn lleihau’r baich ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Bydd hefyd yn helpu Dinas-ranbarth Bae Abertawe i ddiwallu’r angen am fwy o dai.

“Gan gyfrannu at dargedau lleihau carbon y Dinas-ranbarth, bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer hefyd o fudd i fusnesau rhanbarthol trwy greu cadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy fedrus a fydd yn helpu i gyflymu ein hadferiad economaidd yn sgil Covid-19.

“Y bwriad yn y lle cyntaf yw profi cysyniad Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn y sector cyhoeddus ar raddfa gymharol fach cyn cynyddu gweithgaredd mewn sectorau eraill.

“Bydd hyn yn dangos hyfywedd y cysyniad i weddill Cymru a’r DU, gan helpu i greu diwydiant newydd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.”

Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn cyd fynd â nifer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig, gan gynnwys seilwaith digidol, sgiliau a thalent, a chefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Mae'r prosiect hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Ganolfan Adeiladu Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe, sef canolfan ragoriaeth y DU ar gyfer trawsnewid adeiladu, ac mae'n adeiladu ar y cysyniad dylunio Adeiladau Ynni Gweithredol a gafodd ei harloesi gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

Bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn adeiladu ar nifer o brosiectau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau, ar waith neu ar y gweill ledled y Dinas-ranbarth. Mae’r rhain yn cynnwys:

Rhaglen o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe yw Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n fuddsoddiad o £1.3 biliwn.

Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, mewn Partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.