Yn ôl Cyngor CNPT bydd unrhyw brosiect sy'n cael ei ddiwygio neu ei wella yn destun trefniadau llywodraethu a phrosesau cymeradwyo'r Fargen Ddinesig cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn iddynt ei ystyried.

Daw hyn ar ôl i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig dderbyn yr holl argymhellion yn y ddau adolygiad o'r Fargen Ddinesig, a oedd yn cynnwys galluogi hyblygrwydd yn y rhaglen fuddsoddi er mwyn denu prosiectau newydd os ydynt yn fuddiol i'r rhanbarth.

Mae'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dweud bod cais Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cael ei roi ar waith i newid dulliau.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Fel Cyd-bwyllgor, rydym wedi derbyn yr holl argymhellion o adolygiadau'r Fargen Ddinesig, ac mae gwaith yn parhau er mwyn eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.

"Mae'r rhain yn cynnwys penodi cyfarwyddwr rhaglen annibynnol i reoli'r Fargen Ddinesig, yn ogystal â hyblygrwydd i ddiwygio neu wella prosiectau sy'n rhan o'r rhaglen fuddsoddi os byddant yn fuddiol i'r rhanbarth.

"Mae'r Fargen Ddinesig yn dal mewn cyfnod cynnar o ran ei datblygiad, ond rydym yn gwneud popeth y gallwn i wneud y trefniadau llywodraethu a'r prosesau cymeradwyo prosiectau'n fwy effeithiol er mwyn cyflymu cynnydd y rhaglen fuddsoddi.

"Byddai'n ormod o risg i gymunedau a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot i beidio â chael buddsoddiad y Fargen Ddinesig, felly rydym yn barod i helpu Cyngor Castell-nedd Port Talbot i symud ei brosiectau yn eu blaenau.

"Mae holl bartneriaid y Fargen Ddinesig yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w chyflawni. Cydnabyddir yn eang bod y Fargen Ddinesig yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i greu twf economaidd sylweddol a swyddi â chyflog da ledled y rhanbarth yn ei gyfanrwydd."

Roedd yr adolygiad annibynnol o'r Fargen Ddinesig a gomisiynwyd gan y ddwy lywodraeth yn argymell bod dau brosiect Bargen Ddinesig yn cael eu cymeradwyo ar unwaith - sef datblygiad y sector creadigol 'Yr Egin' yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Rydym yn disgwyl i'r arian hwn gael ei ryddhau ar gyfer y prosiectau hyn yn y man.

"Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad parhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'r prosiect rhanbarthol 'Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer', a fydd yn helpu pobl i arbed arian ar eu biliau ynni drwy gyflwyno technoleg ynni-effeithlon o'r radd flaenaf mewn tai newydd ac mewn adeiladau presennol ledled de-orllewin Cymru."

Bydd rhaglen fuddsoddi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan y pedwar cyngor rhanbarthol – Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe – mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Rhagwelir y bydd y Fargen Ddinesig yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd da ac yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod.