Mae yna gynlluniau i agor canolfan hamdden newydd ac arloesol yn 2021, a fydd yn rhoi hwb i filoedd o bobl yn Llanelli a thu hwnt o ran iechyd, ffitrwydd a llesiant.

Bydd y ganolfan hamdden yn y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd gwerth £200 miliwn yn Llynnoedd Delta, a bydd yn cyfuno ag atyniadau a chyfleusterau eraill mewn Canolfan Llesiant fel rhan o'r datblygiad cyffredinol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain ar brosiect y Pentref mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Disgwylir i'r ganolfan hamdden yn y Ganolfan Llesiant gynnwys y canlynol:

Hefyd ymchwilir i'r posibilrwydd o gael cyfleusterau plymio o'r radd flaenaf, a allai gynnal cystadlaethau rhyngwladol a bod yn ganolfan hyfforddi ar gyfer pobl o bob gallu o Gymru gyfan.

Bydd canolfan hamdden bresennol Llanelli ym Mharc Cilgant yn parhau ar agor nes bod y ganolfan hamdden newydd yn weithredol.

Bydd holl staff y ganolfan hamdden bresennol yn cael eu symud i'r cyfleuster newydd yn Llynnoedd Delta cyn gynted â'i bod ar agor, a rhoddir ystyriaeth i ddyfodol adeilad y ganolfan hamdden bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd y ganolfan hamdden newydd ac arloesol yn dod â darpariaeth chwaraeon, hamdden a gwasanaethau mewn perthynas ag iechyd yn Llanelli i'r 21ain ganrif, gan roi i bobl y dref y cyfleusterau modern y maent yn eu haeddu.

"Fel rhan o brosiect mawr a digyffelyb y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd, bydd y ganolfan hamdden arfaethedig, yng Nghanolfan Llesiant y datblygiad, hefyd yn galluogi cysylltiadau agosach nag erioed rhwng y gwasanaethau hamdden, arbenigwyr gofal iechyd, ymchwilwyr gwyddor bywyd ac arbenigwyr llesiant a fydd yn gweithio ar yr un safle.

"Mae cynllun, lleoliad ac oedran y ganolfan hamdden bresennol yn Llanelli yn golygu na allwn wireddu'r weledigaeth arloesol hon yno, felly rhoddir ystyriaeth bellach i ddyfodol yr adeilad hwnnw ar ôl i'r ganolfan hamdden newydd agor wrth i ni barhau i wneud cynnydd o ran ein cynlluniau o safon fyd-eang ar gyfer Llynnoedd Delta.

"Bydd prisiau defnyddio'r ganolfan hamdden newydd yn y Pentref yn unol â phrisiau mewn canolfannau eraill a gynhelir gan y Cyngor ledled Sir Gaerfyrddin."

Fel y porth ar gyfer holl wasanaethau'r Pentref, bydd y Ganolfan Llesiant hefyd yn cynnwys man ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid digidol, ardal bwyd iachus, a lleoedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Gyda chefnogaeth Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg, bydd y Pentref yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe - buddsoddiad o £1.3 biliwn mewn 11 prosiect trawsnewidiol ledled de-orllewin Cymru

Bydd nodweddion eraill y Pentref yn cynnwys y Ganolfan Iechyd Cymuned - a fydd yn cynnwys y Sefydliad Gwyddor Bywyd, y Ganolfan Addysg Llesiant a'r Ganolfan Darpariaeth Glinigol.

Yn ogystal, bydd llety byw â chymorth, gan gynnwys tai â gofal ychwanegol a chartref nyrsio, a fydd yn cynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol drwy ddefnyddio technolegau byw â chymorth sy'n cael eu datblygu ar y safle.

Ymysg y datblygiadau eraill a gynllunnir ar gyfer y Pentref y mae Gwesty Llesiant, er mwyn ateb y galw o ran twristiaeth llesiant, ynghyd â llecynnau wedi'u tirlunio ar gyfer cerdded a beicio, ardal chwarae i blant a mannau ar gyfer y celfyddydau perfformio awyr agored.

Disgwylir i'r Ganolfan Llesiant a'r Ganolfan Iechyd Cymuned yn y Pentref fod yn weithredol yn 2021, a disgwylir i'r prosiect cyffredinol gael ei gwblhau erbyn 2023.

Disgwylir i'r Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol, yn ogystal â chreu bron 2,000 o swyddi o ansawdd da dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd cais cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad yn cael ei ystyried i'w gymeradwyo yn y misoedd sydd i ddod, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle yn 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Dole: "Bydd y prosiect arloesol hwn o fudd i bobl o bob cefndir ac oedran drwy ddwyn ynghyd cyfleusterau o'r radd flaenaf ym meysydd iechyd, llesiant, meddygaeth, chwaraeon, hamdden, ymchwil a busnes ar un safle.

"Bydd cydweithio â darparwyr addysg ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer swyddi ar bob lefel yn y Pentref, a bydd y bobl leol yn elwa ar hyn yn y tymor hir.

"Darperir digon o leoedd parcio ar y safle, ynghyd â standiau i feiciau a man codi/gollwng ar gyfer bysiau, tacsis ac ymweliadau ysgolion. Drwy gysylltu hyn â Llwybr Arfordirol y Mileniwm ac ardaloedd o'r Pentref a fydd yn cael eu tirlunio at ddibenion hamdden, bydd yn rhoi hwb pellach i'n diwydiant twristiaeth ffyniannus."