Treuliodd disgyblion caredig o flwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Nantgaredig fisoedd yn creu treisicl o Git Infento ar gyfer Ellie Meaden, saith oed, sy'n mynd i uned iaith a lleferydd arbenigol yr ysgol.

Bu'r plant yn creu'r treisicl yn ystod eu hegwyl a rhwng gwersi.

Dywedodd Rhydian Evans, athro blwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Nantgaredig: "Mae'r plant a fuodd yn creu'r treisicl ar gyfer Ellie'n haeddu clod mawr am eu bod wedi gwneud yr holl waith yn eu hamser eu hunain.

"Roedd 76 cam i'r broses, felly dangosodd y plant amynedd yn ogystal â brwdfrydedd a sgiliau gweithio mewn tîm er budd eu ffrind.

"Gyda chymaint o swyddi ar fin cael eu creu gan fuddsoddiadau fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'n hanfodol fod pynciau megis peirianneg ymarferol yn cael eu cyflwyno i blant o oedran ifanc."

Dywedodd mam Ellie, Lucy Meaden-Brown: "Mae'n wych o beth fod plant wedi gwneud rhywbeth mor arbennig i gefnogi Ellie.

"Mae hi wrth ei bodd yn yr awyr agored a chael ychydig o ryddid, felly bydd y treisicl yn wych iddi.

"Mae Ellie wedi mynd o nerth i nerth yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Mae'n mynd ac yn dod o'r ysgol yn wên o glust i glust, ac mae hyn yn adrodd cyfrolau am y plant, yr athrawon a'r staff eraill yno."

Mae Coleg Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Nantgaredig fel rhan o'i gwaith ymgysylltu ac allgymorth STEM. Nod y gwaith yw cyflwyno'r syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i blant.

Bu'r brifysgol o gymorth i'r ysgol â chais am grant y Gymdeithas Frenhinol a fu o help i dalu am gostau Cit Infeneto. Yn ogystal, llwyddwyd i gael grant ategol gan Tesco.

Dywedodd Dr Dimitris Pletsas o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae'r byd peirianneg a gweithgynhyrchu yn newid yn gyflym, gan fod technegau megis printio 3D a deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy cyffredin.

"Mae integreiddio gweithgareddau fel hyn i'r cwricwlwm yn hanfodol i roi'r sgiliau y mae eu hangen ar y plant i gael y swyddi diddorol â chyflog uchel y bydd y sector hwn yn eu creu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

"Mae'n rhoi boddhad mawr fod y brifysgol yn gallu cyd-weithio mor agos â'r ysgol arloesol hon mewn ffordd sy'n cyfoethogi profiadau dysgu plant yno.

"Mae modd llwyr addasu'r treisicl, felly fydd modd i Ellie barhau i'w ddefnyddio wrth iddi dyfu. Bydd plant blwyddyn 6 yn parhau i wneud mân newidiadau iddo yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf pan fo'r angen.”

Yn ddiweddar, bu Ysgol Gynradd Nantgaredig hefyd yn cymryd rhan mewn ras ceir model a wnaed ag argraffydd 3D ym mharc Caerfyrddin. Ynghyd â disgyblion saith ysgol arall yn Sir Gaerfyrddin, cyn y ras, bu'r plant wrthi'n argraffu'r ceir model yn 3D ac yn eu gosod at ei gilydd eu hunain.