Mae Gŵyl Gyfryngau Ryngwladol Cymru yn ei blwyddyn gyntaf, ac mae’n chwaer-ŵyl i Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin a gychwynnwyd gan un o raddedigion Ffilm a’r Cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin, Kelvin Guy.  Fe’i cynhelir ar 18-19 Hydref yng Nghanolfan S4C Yr Egin ar gampws Caerfyrddin.  Bydd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Nod yr ŵyl yw dathlu’r gorau o blith y crewyr cynnwys, gwneuthurwyr rhaglenni a doniau ym myd y cyfryngau, ffotograffiaeth ac ysgrifennu sydd yma yng Nghymru heddiw ac o bob cwr o’r byd.  Gobaith y trefnwyr yw y bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i unigolion rwydweithio ag ymarferwyr ac addysgwyr yn y diwydiant i rannu eu profiadau â’i gilydd.  

Cyfarwyddwr yr ŵyl eleni yw’r darlithydd Gwneud Ffilmiau Antur yn y Drindod Dewi Sant, Dr Brett Aggersberg, a fydd yn rhoi’r prif gyflwyniad i agor yr ŵyl ac i lansio’r cwrs newydd HND/BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol.

Gan edrych ymlaen at y digwyddiad meddai Dr Brett Aggersberg:  

“Mae’n gyffro mawr i mi fod yn rhan o’r cyfle ffantastig hwn i arddangos y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan ymarferwyr y cyfryngau digidol yng Nghymru. Mae’r ŵyl yn gyfle i ddathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, boed yn waith gan gwmnïau sydd wedi hen ennill eu plwyf i fusnesau annibynnol newydd a myfyrwyr.  Eleni rydym ni’n ffodus bod OM Systems yn cefnogi ein digwyddiad gyda’u camerâu diweddaraf mewn gweithdy ffotograffiaeth troelli tân unigryw.  Byddwn hefyd yn arddangos gwaith a gyflawnwyd gan artistiaid realiti rhithwir, peilotiaid dronau a chwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi ennill gwobrau.  Gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn gosod y bar i’r ŵyl yn y dyfodol, ac y bydd y gymuned cynhyrchwyr digidol yng Nghymru, ac ymhellach i ffwrdd, yn nodi’r achlysur ar eu calendrau fel un o’r prif ddigwyddiadau rheolaidd.”

Mae’r Brifysgol yn cefnogi’r ŵyl yn ogystal â nifer o gwmnïau lleol a rhyngwladol megis OM System Cameras (Olympus gynt), Y Sied, Barti Rum, Pembrokeshire Fire Spinners, Wales Interactive, a Sparq Fest.

Yn ystod yr ŵyl, gall gwesteion ddisgwyl dangosiadau, arddangosfeydd a seminarau. Mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys Geraint Radford, llysgennad macro OM Systems; darlithydd Coleg Sir Gâr, Karl Sedgwick, yn trafod realiti rhithwir; Media To Motion yn trafod dronau; a Broadside, cwmni un o raddedigion Ffilm a’r Cyfryngau Caerfyrddin, Dan Bailey, yn trafod eu gwaith ffilm a masnachol sydd wedi ennill gwobrau ac wedi ei enwebu am BAFTA.

Caiff prosiectau amlgyfrwng o bob cwr o’r byd eu dangos ynghyd â gwaith gan fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau a BA Gwneud Ffilmiau Antur yn y Drindod Dewi Sant, a BA Ffotograffiaeth yng Ngholeg Sir Gâr.

Bydd arddangosfa rad ac am ddim gan Pembrokeshire Fire Spinners ar noson 18 Hydref, gyda chyfle i dynnu lluniau gan ddefnyddio camerâu OM System.

Gan fod yr ŵyl yn cael ei lleoli ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant, bydd myfyrwyr y cyrsiau BA Gwneud Ffilmiau a BA Gwneud Ffilmiau Antur yn manteisio ar hyn drwy wirfoddoli yn y digwyddiad i gael profiad o gynnal gŵyl.

Ychwanega Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, Carys Ifan:

“Mae’n ardderchog gweld lansiad gŵyl newydd, yn enwedig un sy’n dathlu cynnwys o Gymru ac yn rhyngwladol a grëwyd i amrywiaeth o blatfformau digidol.  Mae’r Egin yn ganolbwynt i’r diwydiannau creadigol yn yr ardal ac rydym ni wrth ein boddau i roi cartref i Ŵyl Gyfryngau Ryngwladol Cymru gyntaf. Rwy’n siŵr y bydd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol ac edrychaf ymlaen at gydweithio yn y dyfodol. ”

image