Cyhoeddodd Ynni Môr Cymru yr agoriad yn ystod digwyddiad lansio ym Mhorthladd Penfro ddydd Iau 26 Medi.

Drwy wyth safle a ganiatawyd ymlaen llaw yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau a'r cyffiniau, nod prosiect META yw helpu datblygwyr i ddefnyddio, dadrisgio a datblygu eu technolegau ynni'r môr.

Mae'r prosiect gwerth £1.9 miliwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau'r Arfordir.

Mae cam un yn cynnwys pum safle sy'n union gerllaw seilwaith Porthladd Penfro, gan gynnig mynediad hawdd i brofi offer ynni'r môr mewn ardaloedd risg isel. Bydd y profion cynnar hyn yn sbardun i ddatblygu dyfeisiau i'r cam masnachol.

Dywedodd Joseph Kidd, Rheolwr Gweithrediadau a Datblygu META: “Penllanw dwy flynedd o waith caled yw'r cyhoeddiad hwn, ac rydym yn falch iawn o ddweud yn swyddogol ein bod ar agor. Diben META yw lleihau'r amser, y gost a'r risgiau y mae datblygwyr ynni'r môr yn eu hwynebu i gyflymu datblygiad yn y sector, ac ni fu adeg pan oedd y twf hwn yn fwy hanfodol.

“Rydym yn wynebu argyfwng yn yr hinsawdd a bydd ynni'r môr yn chwarae rhan bwysig o ran cyrraedd ein targedau allyriadau di-garbon net erbyn 2050. Mae cefnogaeth gan y cyhoedd i'r sector hefyd yn fwy nag erioed, felly ni allwn aros i ddechrau croesawu ein cwsmeriaid cyntaf a gosod offer yn y dŵr."

Bydd META yn cyd-fynd â'r rhwydwaith canolfannau profi presennol ledled y DU a bydd yn garreg gamu i ddatblygwyr, gan eu cynorthwyo ar eu taith i'r ddau Barth Arddangos yng Nghymru.

Yn ogystal â chynnig safleoedd ar gyfer profi offer ynni'r môr, bydd META hefyd yn cefnogi ymchwil ac arloesi a phrosiectau methodolegau monitro, gan weithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni'r Môr (MEECE) a arweinir gan ORE Catapult.

Mae META a MEECE yn rhan o Ardal Forol Doc Penfro, sef prosiect cydweithredol a fydd yn datblygu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygu ynni'r môr yn Sir Benfro. Mae'r prosiect, a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, hefyd yn cynnwys Parth Arddangos Sir Benfro a gwaith uwchraddio seilwaith ym Mhorthladd Penfro.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn nifer o brosiectau trawsnewidiol ledled de-orllewin Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.