Mae Mr Short, sy'n aelod o Fwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dweud bod gan y prosiect sydd wedi'i glustnodi ar gyfer safle yn Llynnoedd Delta y potensial i roi hwb i Lanelli, yn ogystal â Sir Gaerfyrddin a De Cymru gyfan.

Mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd, sy'n rhoi arweiniad sector preifat arbenigol i'r Cyd-bwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau o ran y Fargen Ddinesig, yn cynnwys arbenigwyr mewn sectorau gan gynnwys busnes, tai, gwyddorau bywyd, ynni, cyllid a gweithgynhyrchu. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach yn gweithio ar gynllun darparu amgen ar gyfer y Pentref Llesiant, a fydd yn cael ei ystyried i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys canolfan hamdden o'r radd flaenaf, y cyfleusterau diweddaraf ar gyfer ymchwil gwyddor bywyd, llety byw â chymorth, a llecynnau wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden awyr agored.

Gallai'r Pentref Llesiant, a amcangyfrifir y bydd gwerth £467 miliwn ac yn creu dros 2,000 o swyddi ar gyfer yr economi leol, hefyd gynnwys gwesty llesiant er mwyn diwallu'r galw cynyddol am dwristiaeth llesiant.

Dywedodd Mr Short, sydd wedi bod yn Gadeirydd y Scarlets am naw mlynedd: "Mae fy nghysylltiad â'r Scarlets yn golygu fy mod yn frwdfrydig iawn ynghylch Llanelli a'r ardal gyfagos.

"O ran prosiect y Pentref Llesiant, nid diwedd y gân yw'r geiniog. Mae'n rhaid edrych ar natur uchelgeisiol y prosiect, a'r hyn mae'n ei wneud ar gyfer y gymuned a'r amgylchedd.

"Mae'r Pentref Llesiant yn integredig, felly mae'n fwy na datblygiad tai neu bentref chwaraeon. Ynghyd â'r gwelliannau amgylcheddol, bydd gwaith ymchwil ac elfennau addysgol yn rhan o'r prosiect. Mae'n ddatblygiad cyfannol a allai wneud gwahaniaeth mawr dros amser.

"Fel nifer o rannau yn Ne Cymru, mae gan Lanelli orffennol diwydiannol yr ydym yn falch iawn ohono. Ond mae'n rhaid i fywyd symud yn ei flaen, ac mae gan y math o ddatblygiad sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Llynnoedd Delta y potensial i'n helpu ni i symud ymlaen fel cymdeithas."

Mae'r Pentref Llesiant yn un o blith nifer o brosiectau ledled De-orllewin Cymru sydd i'w gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd gwerth £1.3 biliwn.

Mae'r Fargen Ddinesig, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn cael ei harwain gan bedwar Awdurdod Lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.