Mae disgyblion mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dysgu am ddefnyddio technoleg argraffu 3D, o wneud pizza ar gyfer gofodwyr i ail-greu esgyrn hynafol ar gyfer ymchwil archeolegol.

Cynhaliwyd gweithdy yn Ysgol Gynradd Nantgaredig gan Dr Dimitrios Pletsas o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Soniodd wrth ddisgyblion blwyddyn chwech am hanes argraffwyr, defnydd presennol o argraffwyr 3D, a'r datblygiadau cyffrous mewn technoleg a ddisgwylir dros y blynyddoedd nesaf.

Fel ysgol arloesi digidol, mae gan Ysgol Gynradd Nantgaredig argraffydd 3D eisoes, diolch i gyllid gan Tesco ac academi wyddonol y Gymdeithas Frenhinol.

Hefyd roedd y cyllid wedi galluogi'r ysgol i brynu Cit Addysg Infento i gyflwyno peirianneg sylfaenol i'r plant.

Mae Dr Pletsas ymhlith yr arbenigwyr ar brosiect Ffatri'r Dyfodol a arweinir gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe a disgwylir iddo gael ei ariannu'n rhannol, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes, gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn. Fel rhan o'r prosiect, bydd arbenigwyr ym maes peirianneg yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu lleol drwy ddefnyddio technolegau digidol y diwydiant megis argraffwyr 3D, deallusrwydd artiffisial a roboteg.

Dywedodd Dr Pletsas: "Mae'r datblygiad mewn technoleg argraffu 3D yn trawsnewid y diwydiant gweithgynhyrchu ar draws y byd. Mae gweithgynhyrchwyr esgidiau megis New Balance, Nike ac Adidas eisoes yn defnyddio argraffwyr 3D i wneud esgidiau ymarfer, a disgwylir i'r ceir trydan cyntaf a wneir gan ddefnyddio argraffwyr 3D fynd ar werth y flwyddyn nesaf.

"Mae argraffwyr 3D hefyd yn cael eu defnyddio mewn diwydiannau eraill, gan gynnwys adeiladu tai ac awyrennau, yn ogystal â'r sector meddygol i wneud castiau ar gyfer esgyrn sydd wedi'u torri a modelau ar gyfer deintyddiaeth ac ail-greu wynebau.

"Yn ogystal â phrosiect Ffatri'r Dyfodol, bydd menter Sgiliau a Thalentau a arweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn tanategu pob un o 11 prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe i sicrhau bod gan ein plant gyfle i weithio yn y miloedd o swyddi a fydd yn cael eu creu. Dyma pam mae'n bwysig cyflwyno, i blant o oedran ifanc, y math o dechnoleg a fydd wrth wraidd cymaint o ddiwydiannau yn y dyfodol."

Hefyd, dangosodd Dr Pletsas i ddisgyblion Nantgaredig sut y mae argraffwyr 3D yn cael eu defnyddio i wneud siocled, ceir a reolir o bell a theganau eraill. Dywedodd fod y math hwn o dechnoleg wedi cael ei ddefnyddio gan filfeddygon er mwyn gwneud a gosod pig newydd ar gyfer eryr wedi'i anafu.

Dywedodd Steffan Griffiths, pennaeth Ysgol Gynradd Nantgaredig: "Mae'n gwneud synnwyr i gau'r bwlch rhwng prifysgolion ac ysgolion cynradd gan fod plant ifanc yn gallu dysgu am ddatblygiadau technolegol yn gynnar wrth iddynt ddatblygu, a does dim amheuaeth y bydd hyn o fudd iddynt yn y dyfodol.

"Fel ysgol arloesi digidol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y chwyldroad digidol sy'n parhau i ddatblygu ar draws y byd, a'r rôl hanfodol y mae ysgolion yn ei chwarae wrth roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i'n plant er mwyn iddynt lwyddo.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth barhaus gan Dr Pletsas a Phrifysgol Abertawe."

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae hon yn enghraifft ragorol o'r gwaith parhaus sy'n cael ei wneud mewn ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin i roi'r sylfaen y bydd ei angen ar ein plant i symud ymlaen gyda'r oes ddigidol sy’n symud yn gyflym.

"Mae'r sgiliau hyn ymysg y rheiny a fydd yn hanfodol wrth sicrhau y bydd plant lleol yn cael mynediad i'r math o swyddi o ansawdd uchel a fydd yn cael eu creu gan raglenni megis Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn y dyfodol."

Mae'r prosiectau eraill a ariannir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes, yn cynnwys clwstwr creadigol o'r enw 'Yr Egin' ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, a Phentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn Llynnoedd Delta, Llanelli.