Amcan LocalMotion sydd yn gweithio mewn chwe lle yn unig yng Nghymru a Lloegr, gyda Caerfyrddin wedi ei dewis i fod yn un ohonynt, yw adeiladu mudiad cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i fynd at wraidd heriau cyffredin. 

Nod LocalMotion Caerfyrddin yw i greu’r dre hapusaf a mwyaf llewyrchus yng Nghymru, lle mae creadigrwydd a diwylliant wrth galon y broses o wella llesiant pobl a darparu economi fwy teg a chynhwysol i bawb – gan gynnwys creu’r sgiliau y gall y dref eu defnyddio i lunio a dod a phobl ynghyd i wneud y defnydd gorau o’i hasedau treftadaeth a diwylliannol niferus.

Dywedodd Maer Caerfyrddin y Cynghorydd Miriam Moules,

“Mae Caerfyrddin, tref hynaf Cymru yn falch o fod wedi cael ei dewis fel un o chwe lleoliad yn y Deyrnas Unedig, a’r unig le yng Nghymru i fod yn rhan o LocalMotion. Rydym am ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, gwneud Caerfyrddin y lle hapusaf yng Nghymru, a chyflawni prosiectau a arweinir gan y gymuned i bawb. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r dref, ac edrychwn ymlaen yn fawr at wrando ar bobl leol er mwyn siapio dyfodol Caerfyrddin.”

Sefydlwyd grŵp craidd i lywio gweithgaredd Localmotion Caerfyrddin sy’n cynnwys CAVS, Oriel Myrddin, Menter Gorllewin Sir Gâr, Drindod Dewi Sant, Yr Egin, BID Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin, Cyngor Sir Gâr, Antur Teifi, Carmarthenshire People First, Away Days, West Wales Action for Mental Health. Mi fydd yn dda clywed gan bobl sydd â diddordeb i gynorthwyo cyflawni’r amcanion yn enwedig rheiny sydd â phrofiad bywyd o’r heriau cymdeithasol mae LocalMotion yn dymuno newid.

Mae chwe ariannwr sefydledig yn cydweithio ar gyfer LocalMotion :  mae’n cynnwys Ymddiriedolaeth Esmee Fairbairn, Ymddiriedolaeth Lloyds Bank yng Nghymru a Lloegr, Ymddiriedolaeth Lankelly Chase, Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, Ymddiriedolaeth Tudor ac Ymddiriedolaeth City Bridge. Kathleen Kelly yw Cyfarwyddwr Cydweithio LocalMotion :

"Datblygodd LocalMotion o ddymuniad a rennir gan chwe chyllidwr yn y DU i adeiladu mudiad a allai ysbrydoli ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin y mae cymunedau'n eu hwynebu, fel y gallant ffynnu a ffynnu.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld LocalMotion Caerfyrddin yn dod â phobl yng nghymunedau Caerfyrddin at ei gilydd mewn ffyrdd creadigol i adeiladu cydweithrediad hirdymor o amgylch yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Mae prosiect Llais Caerfyrddin yn hanfodol i sefydlu blaenoriaethau cymunedau lleol a llunio'r hyn a wnawn gyda'n gilydd i gyflawni ein nod cyffredin o Gaerfyrddin yw'r dref hapusaf a mwyaf llewyrchus yng Nghymru."

Llais Caerfyrddin 2022 yw’r prosiect cynta i ddigwydd o dan faner LocalMotion yng Nghaerfyrddin. Cyfres o ddigwyddiadau dros dro bywiog a chreadigol yw Llais Caerfyrddin 2022 a fydd yn cael eu cynnal ar strydoedd ac ystadau ledled y dref yn ystod yr haf. Cynlluniwyd y prosiect gydag artistiaid amrywiol er mwyn roi cyfle i bobl Caerfyrddin siarad yn agored, breuddwydio ychydig a lleisio eu gobeithio ar gyfer y dyfodol.

O’r 9fed o Orffennaf nes ddiwedd Awst, bydd Llais Caerfyrddin 2022 yn ymweld â Gŵyl Canol Dre, Maes Nott, Park Hall,  Llys Cambrian, Llwyn yr Eos, Tre-ioan, Travellers Rest a Pharc Caerfyrddin.

Dywedodd Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin bu’n datblygu Llais Caerfyrddin ar y cyd â People Speak Up,

“Dyma brosiect hynod gyffrous, yn gyfle arbennig i ni ddod i adnabod pobl Caerfyrddin. Y bobl sydd yn lliwio'r strydoedd o ddydd i ddydd - yn sgwrsio a chreu mewn mannau sydd yn ddiogel, a chyfarwydd iddynt. Bydd y prosiect yma gobeithio yn rhoi'r hyder i bobol i rannu syniadau, rhwystrau a gobeithion tua’r dyfodol am y dref hynod hwn gan ddefnyddio'r celfyddydau fel teclyn mynegiant.”

Drwy ddefnyddio diwylliant a sgiliau creadigol, bydd LocalMotion Caerfyrddin yn ysbrydoli ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin y mae cymunedau’n eu hwynebu, er mwyn iddynt allu ffynnu a bod yn llwyddiannus, ac i weithio gyda phobl Caerfyrddin i lunio’r dyfodol.