Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ac Ardal Forol Doc Penfro yw dau o blith llawer o brosiectau sydd i'w hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, yn Ne-orllewin Cymru.

Daw'r prosiectau yn sgil adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig sy'n rhybuddio am ddifrod sylweddol i foroedd a chymunedau arfordirol y byd os yw allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau ar y lefelau presennol.

Cafodd cam cyntaf Ardal Profi Ynni'r Môr (META) ei lansio ddiwedd mis Medi yn Sir Benfro, sy'n rhan o brosiect Ardal Forol Doc Penfro a fydd yn rhoi hwb i economi las Cymru.

Drwy wyth safle a ganiatawyd ymlaen llaw yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau a'r cyffiniau, nod prosiect META – a arweinir gan Ynni Môr Cymru – yw helpu datblygwyr i ddefnyddio, datblygu a dadrisgio eu technolegau ynni'r môr.

Mae'r cam cyntaf yn cynnwys pum safle ger Porthladd Penfro, sy'n cynnig mynediad hwylus ar gyfer profi dyfeisiau.

Mae'r prosiect gwerth £1.9 miliwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau'r Arfordir.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Gan adlewyrchu pryderon y Cenhedloedd Unedig a chyrff eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ‘dim allyriadau carbon’ erbyn 2050.

“Felly yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, rydym ni'n benderfynol o arwain y ffordd drwy gyfres o brosiectau arloesol – y mae rhai ohonyn nhw i'w hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

"Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a fydd yn cynnwys adeiladu 3,500 o gartrefi newydd ac ôl-osod 7,500 o gartrefi ledled y Dinas-ranbarth er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, cyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd, a gweld budd i fusnesau rhanbarthol sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi.

“Mae cam cyntaf Ardal Profi Ynni'r Môr yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau, sydd bellach ar agor, yn un agwedd ar brosiect ehangach Ardal Forol Doc Penfro a fydd hefyd yn cynnwys Parth Arddangos Sir Benfro, gwelliannau i Borthladd Penfro a Chanolfan Ragoriaeth ar gyfer Peirianneg Ynni'r Môr.”

Dywedodd David Jones, Cyfarwyddwr Prosiect Ynni Môr Cymru: "Mae ynni'r môr yn parhau i greu swyddi arloesol newydd carbon isel, gan ddarparu amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi, clystyru a chydnerthedd economaidd arfordirol. Mae hefyd yn ysgogi mewnfuddsoddi rhyngwladol ac yn rhoi i'r rhanbarth wybodaeth a sgiliau y mae modd eu hallforio.

"Bydd META yn ychwanegu at allu Cymru o ran ynni'r môr ac yn darparu ardaloedd prawf er mwyn gwella technoleg ynni'r môr, yn cefnogi arloesi ac ymchwil, ac yn chwarae rhan hanfodol yng nghynlluniau Catapult UK i helpu'r sector yng Nghymru.

"Wrth i'r angen i leihau'r newid yn yr hinsawdd gynyddu, cadarnhaol yw gweld y gefnogaeth ar draws y Dinas-ranbarth i gyflawni Ardal Forol Doc Penfro."

Cyn bo hir bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cyflwyno achos busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi'i ailfodelu i'w gymeradwyo, sy'n canolbwyntio ar arloesi, tanwydd di-garbon, a dyfodol dur.

Gan adeiladu ar strategaeth datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy y Cyngor, mae'r cynlluniau sy'n rhan o'r achos busnes yn cynnwys tanwydd di-garbon ar gyfer cerbydau'r Cyngor, Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe, map llwybr gwefru cerbydau trydan, a modelu ansawdd aer.

Bydd Canolfan Arloesi Dur Genedlaethol hefyd yn cael ei sefydlu, lle caiff ymchwil a datblygu eu hymgorffori yn y broses o wneud dur ar draws y rhanbarth er mwyn lleihau allyriadau carbon ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: “Bydd y prosiectau hyn a rhai eraill yn cael eu hystyried cyn bo hir gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig cyn eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

"Daw hyn yn dilyn cymeradwyo dau brosiect cyntaf y Fargen Ddinesig – Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau – ac mae nifer o gynghorau rhanbarthol hefyd wedi datgan argyfyngau newid hinsawdd yn ystod y misoedd diwethaf.

"Ac er na fydd yn cael ei ariannu gan y Fargen Ddinesig, rydym ni'n disgwyl cyhoeddiad cadarnhaol yn fuan ynghylch y camau nesaf ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe."

Mae'r cynigion diwygiedig ar gyfer y morlyn, a fyddai'n rhan o gynllun Ynys Ynni'r Ddraig oddi ar arfordir Abertawe, yn cynnwys tyrbinau tanddwr i gynhyrchu ynni di-garbon, yn ogystal â chymuned o filoedd o gartrefi arnofiol, fferm solar arnofiol a chanolfan ddata danddwr i gwmnïau technoleg er mwyn cadw gweinyddion yn oer.