Mae prosiect Campysau gwerth £132 miliwn Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Gyda £15 miliwn wedi'i sicrhau i ddatblygu safleoedd yn Nhreforys a Singleton, bydd y prosiect hwn yn hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sectorau Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon sy'n ehangu.

Arweinir y prosiect gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Partneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol yn y sector preifat. Bwriedir cynhyrchu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe a bydd yn werth dros £150 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2033.

Gan ganolbwyntio ar wyddor bywyd, iechyd a llesiant, a'r sector chwaraeon, dyma'r cydweithio perffaith rhwng busnesau, y byd academaidd a'r llywodraeth i sbarduno twf ac arloesedd. Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn dau gam ac mae wedi'i leoli yn Singleton a Threforys yn Abertawe.

Bydd cam un, a fydd yn defnyddio cyllid y Fargen Ddinesig dros y 3 blynedd nesaf, yn darparu 2000m2 o ofod ymchwil ac arloesi pwrpasol ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon, yn ogystal â phartneriaethau masnachol. Yn ogystal, bydd cam un hefyd yn cynnwys adnewyddu adeilad presennol yn Ysbyty Rhanbarthol Treforys. Bydd y safle hwn yn creu Sefydliad Gwyddorau Bywyd gyda 700m2  o le ar gyfer cydweithio masnachol ac academaidd ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu clinigol.

Unwaith y bydd y cam cyntaf wedi'i gwblhau, bydd yn datgloi'r potensial i ddatblygu'r ddau safle trwy eu hehangu'n helaeth dros y 12 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn sefydlu'r ardal ymhellach fel un sydd yn arwain y ffordd ym maes iechyd, chwaraeon a gwyddoniaeth, gan ysgogi datblygiad economaidd ac ychwanegu gwerth at y rhanbarth. Disgwylir i hyn gynnwys Parc Arloesi 55 erw o faint gyda lle i fusnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr yn y sector Technoleg Chwaraeon a Thechnoleg Feddygol, sydd yn sector sy'n tyfu. Bydd y rhain yn gweithio gyda'i gilydd mewn ecosystem gwyddorau bywyd, llesiant ac arloesi mewn chwaraeon. 

Ar Gampws Singleton bydd yr ail gam yn arwain at greu canolfan ragoriaeth mewn chwaraeon gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer timau elît, chwaraeon cymunedol, ynghyd â thechnoleg ac ymchwil chwaraeon.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Bydd y prosiect Campysau yn creu dros 1,000 o swyddi â chyflogau da a fydd yn rhoi hwb i'r economi tra hefyd yn helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol.

“Bydd y prosiect, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn adeiladu ar arbenigedd rhanbarthol mewn gwyddor bywyd, llesiant ac arloesedd clinigol a fydd yn helpu i atal afiechyd, datblygu triniaethau gwell a gwella ansawdd bywyd.  Gyda synergeddau'r prosiect Pentre Awel, byddant yn creu llwyfan cryf i adeiladu ar iechyd a llesiant ar draws y dinas-ranbarth.

“Mae cymeradwyo'r prosiect hwn yn golygu bod holl bortffolio'r Fargen Ddinesig bellach wedi'i gymeradwyo – sydd yn gyflawniad yr ydym yn hynod falch ohono ac sy'n garreg filltir bwysig iawn i'r rhanbarth. Gallwn yn awr newid ein ffocws i gyflawni er mwyn cyflymu adferiad economaidd ein rhanbarth yn sgil y pandemig a gwireddu ein nod o greu De-orllewin Cymru well i'w holl breswylwyr a busnesau”.

Ychwanegodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe; "Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd bod y fenter ranbarthol fawr hon, ar y cyd â Chyngor Abertawe, ein byrddau iechyd lleol a phartneriaid allweddol yn y sector preifat, bellach wedi'i chymeradwyo.

“Wrth harneisio'r ecosystem iechyd a gwyddor bywyd ffyniannus yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, bydd y prosiect hwn yn sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi mewn gofal iechyd a meddygaeth ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar ein campws hanesyddol yn Singleton, gan greu effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth a chefnogi datblygiad diwydiant Technoleg Chwaraeon arloesol yma yng Nghymru. Bydd yn cynorthwyo ein prifysgol i wireddu ein huchelgeisiau rhanbarthol ar gyfer chwaraeon, gan ein galluogi i hyrwyddo llesiant ac iechyd ataliol, a chefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon gydol oes.

“Mae'r prosiect Campysau yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio'n effeithiol ar draws sectorau, ac rydym yn falch o fod yn bartner gyda busnes a'r llywodraeth er budd ehangach ein rhanbarth.”

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, "Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a mwy gwyrdd. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd yn arwain y ffordd wrth arloesi mewn technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd. Bydd y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella rôl arweiniol Cymru ymhellach mewn technolegau meddygol uwch a gwyddoniaeth. Bydd yn cynorthwyo busnesau i fanteisio ar gysylltiadau â'r byd academaidd, gan ddod ag ymchwil o'r radd flaenaf allan o'r labordai ac o ddiwydiant ac i mewn i gymdeithas, er budd ein pobl a'n heconomi.”

Ychwanegodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, "Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe, ac mae Llywodraeth y DU yn falch iawn o fod yn ariannu'r prosiect uchelgais hwn. Bydd hyn yn gwneud Prifysgol Abertawe, ynghyd â'u partneriaid, yn arweinwyr ym maes Technoleg Feddygol a Chwaraeon yr 21ain ganrif.

“Yn ogystal â rhoi hwb enfawr i swyddi a'r economi leol, bydd y dechnoleg a gaiff ei datblygu yn gwella iechyd a llesiant pobl yn Abertawe a thu hwnt.”

image