Ymhlith nifer o faterion a gafodd eu cymeradwyo yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ddydd Mawrth 30 Gorffennaf oedd chwilio am gynghorwyr arbenigol di-dâl sy'n cynrychioli amrywiaeth o feysydd

Yn ogystal, bydd arbenigwyr rhanbarthol ym meysydd arloesi digidol, sgiliau, ynni, gweithgynhyrchu, pobl ifanc, trafnidiaeth, datblygu lleol, diwydiant trwm a bwyd a diod hefyd yn cael eu gofyn i gynghori arweinwyr y Fargen Ddinesig, pan fo angen.

Bydd hysbyseb yn cael ei gosod yn fuan yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb.

Cymeradwywyd disgrifiad swydd a chyflog ar gyfer cyfarwyddwr rhaglen annibynnol newydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn y Cyd-bwyllgor hefyd, a disgwylir y bydd y broses recriwtio yn dechrau yn yr wythnosau nesaf.

Materion eraill a gafodd eu cymeradwyo oedd Cytundeb Cyd-bwyllgor diwygiedig a fydd yn cael ei anfon at bob cyngor rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’w gymeradwyo. Mae angen cytundeb diwygiedig oherwydd bod swyddogaethau'r Fargen Ddinesig wedi cael eu hailddosbarthu'n ddiweddar gan gynnwys swyddogaethau cyfreithiol a gweinyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor: “Mae penodi cyfarwyddwr rhaglen newydd ac ymgynghorwyr arbenigol – yn ogystal â Chytundeb Cyd-bwyllgor diwygiedig – yn ofynion a gafodd eu nodi yn y ddau adolygiad i'r Fargen Ddinesig, gyda'r nod o gyflymu'r broses o gyflawni'r rhaglen fuddsoddi.

“Rydym yn gweithredu'n gyflym i roi ar waith yr holl argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw'r Fargen Ddinesig i drigolion a busnesau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

“Mae'r cymeradwyaethau hyn yn dilyn y ffaith bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ryddhau'r gyfran gyntaf o arian y Fargen Ddinesig, sy'n gychwyn ar fuddsoddiad mawr yn ein rhanbarth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfleoedd gwaith pobl, eu dyheadau a'u hansawdd bywyd.

“Bydd y Fargen Ddinesig hefyd yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach a fydd yn gwella llesiant economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn sylweddol, gan helpu i leihau'r bwlch â rhannau mwy cyfoethog o'r DU.”

Yn amodol ar gwblhau'r telerau a'r amodau, mae £18 miliwn cyntaf cyllid y DU a Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gymeradwyo dau brosiect - Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas a Glannau Abertawe. Gallai £18 miliwn pellach ddilyn yn ddiweddarach eleni hefyd.

Erbyn hyn, mae Canolfan S4C Yr Egin bron iawn yn llawn, ac mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar yr arena ddigidol dan do sydd yn rhan o brosiect Abertawe.

Caiff y Fargen Ddinesig ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Amcangyfrifir bod y Fargen werth £1.8 biliwn gan greu tua 9000 o swyddi, mae'n cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol a'r ddwy brifysgol ranbarthol.