Campysau
Y weledigaeth ar gyfer y prosiect Campysau yw darparu dwy fenter ategol ar draws dau safle mewn dau gam (Singleton a Threforys yn Abertawe) sy'n ychwanegu gwerth at y sectorau gwyddor bywyd, iechyd a chwaraeon rhanbarthol. Bydd hyn yn cefnogi ymyriadau ac arloesedd ym maes gofal iechyd a meddyginiaeth i helpu i atal salwch, datblygu triniaethau gwell a gwella gofal i gleifion, gan hybu chwaraeon drwy wyddor chwaraeon o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd.
Mae'r cynnig yn adeiladu ar bartneriaethau sefydledig a rhai sy'n dod i'r amlwg i ddarparu amgylchedd sy'n manteisio ar ymchwil gwyddor bywyd a thechnoleg i sbarduno datblygiad economaidd, gan osod Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer iechyd, chwaraeon a llesiant.
Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau ymchwil, arloesi a chwaraeon newydd ar gampws iechyd rhanbarthol sy'n galluogi cyd-leoli ymchwil a diwydiant gwyddor bywyd ochr yn ochr â seilwaith clinigol a chyfleoedd buddsoddi. Bydd hyn yn cefnogi partneriaid presennol ac yn denu mewnfuddsoddiad i gyflymu arloesedd, gan gefnogi'r gwaith o gyflawni ail gam y prosiect a datblygiadau tymor hwy eraill.
Bydd Cam 1 y prosiect Campysau yn cynnwys:
- Datblygiad yn Sketty Lane yn Abertawe a fydd yn creu amgylchedd sy'n meithrin arloesedd rhwng y meysydd gwyddor bywyd, iechyd, llesiant a chwaraeon. Bydd hyn yn helpu i ddenu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat gan sefydliadau ar draws y sectorau hyn, wrth elwa ar arbenigedd ym menter y Sefydliad Gwyddorau Bywyd gerllaw ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe
- Gwaith adnewyddu yn Ysbyty Treforys a fydd yn helpu i adeiladu ar lwyddiant menter y Sefydliad Gwyddorau Bywyd. Bydd y rhan hon o'r prosiect hefyd yn cynnwys cynllunio ar gyfer mynediad ffordd newydd i safle 55 erw i'r gogledd o'r ysbyty, a fydd yn sefydlu Treforys yn enghraifft fyd-eang o'r arferion gorau ym maes gofal iechyd drwy ddarparu ar gyfer cydweithio masnachol ac academaidd gydag ymchwil a datblygu clinigol a hwyluso mynediad at dechnoleg a thechnegau modern.
Statws: Achos busnes yn cael ei ddatblygu.