Yr Egin, Canolfan S4C

Mae'r Egin yn ganolfan ddigidol a chreadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

Yn ogystal â bod yn gartref i S4C, mae cam cyntaf y datblygiad sy'n 3,700 metr sgwâr hefyd yn gartref i ystod o gwmnïau eraill sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys cyhoeddi amlgyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffeg; cyfieithu ac is-deitlo.

Mae Canolfan S4C Yr Egin - sydd hefyd yn cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, man perfformio mawr a chaffi - yn cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a dangosiadau ffilm ar gyfer aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a digidol.

Prif amcanion yr Egin yw sbarduno buddsoddiad pellach a thwf economaidd yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, ac ysbrydoli ac adfywio amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol a chymunedol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Bydd yr Egin hefyd yn creu canolbwynt diwylliannol cyffrous ar gyfer y diwydiannau digidol a chreadigol, gan hyrwyddo statws yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Mae ail gam y datblygiad yn cael ei gynllunio, a fydd yn darparu man cydweithio digidol, hybrid o'r radd flaenaf sy'n caniatáu ymgysylltu traws-sector rhwng busnesau sefydledig yng Ngorllewin Cymru a busnesau bach a chanolig yn y diwydiannau creadigol.   Bydd yn darparu ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau technolegol 'newydd' y gellid eu darparu ar gyfer y rhanbarth. 

Bydd hefyd yn 'gyrchfan o ddewis' sy'n ysbrydoli cymuned ddigidol i gysylltu, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau ac ecosystem dechnoleg ddibynadwy lle gall cleientiaid ddod i ymgysylltu a chyd-greu atebion busnes newydd.

Statws: Achos busnes wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.