Ein Dyheadau

  • Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl.
  • Rhanbarth Clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
  • Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.

£175m+

Buddsoddiad

£318m

Hwb i'r economi ranbarthol

Beth rydym yn ei wneud…

Dysgwch fwy am y rhaglen a sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a diwydiant i wella cysylltedd ar draws y rhanbarth.

Y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyr ar gyfer y diweddariadau, astudiaethau achos, adroddiadau a digwyddiadau diweddaraf.

Sign up

Ein Partneriaid

Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu'n ffurfiol rhwng pedwar awdurdod lleol - Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, dau fwrdd iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a dwy brifysgol - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Mae seilwaith digidol yn thema drawsbynciol drwy holl brosiectau a rhaglenni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'n hanfodol o ran cyflawni strategaethau trawsnewid digidol ein partner, twf economaidd ein rhanbarth a gwella cynhwysiant cymdeithasol.

Rydym yn credu'n gryf y gallwn ond cyflawni dyheadau ein rhaglen drwy weithio ar y cyd â diwydiant, y llywodraeth, a'n partneriaid. Rhannu'r llwyddiannau a'r heriau, defnyddio data i wneud penderfyniadau a bod yn ystwyth yn ein dull o weithredu.