Cwrdd â'n Hyrwyddwyr Digidol

Mae'r Tîm Digidol Rhanbarthol yn gyfrifol am gyflawni'r Rhaglen Seilwaith Digidol ac mae'n cynnwys tair ffrwd waith, sef Lleoedd Cysylltiedig, Gwledig a Rhwydweithiau Diwifr y Genhedlaeth Nesaf. Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein buddsoddiad yn cyd-fynd ag ymyriadau fel Prosiect Gigabit a'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, ac yn eu hategu. Rydym hefyd yn cyfarfod â chyflenwyr yn rheolaidd i sicrhau bod ein dull gweithredu yn hwyluso a, lle bo hynny'n bosibl, yn cyflymu'r broses gyflwyno fasnachol arfaethedig yn y rhanbarth.

Er mwyn cefnogi'r rhaglen ar lefel leol ac, fel yr argymhellwyd yn Llawlyfr Chwalu Rhwystrau Llywodraeth y DU ar gyfer Awdurdodau Lleol ac adroddiad Chwalu Rhwystrau Llywodraeth Cymru, rydym wedi ariannu hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol yn ein rhanbarth.

Ein Rheolwyr Cysylltiadau Cysylltedd Digidol yw'r un pwynt cyswllt i ddiwydiant, y Llywodraeth ac adrannau mewnol ar gyfer popeth sy'n ymwneud â rhoi seilwaith sefydlog a symudol ar waith yn eu sir. Mae gennym nifer o gyflenwyr sy'n mynd ati i adeiladu seilwaith ar draws y rhanbarth ac mae ein timau yn cyfarfod â nhw'n rheolaidd i drafod y broses gyflwyno leol, mynd i’r afael ag unrhyw heriau a all oedi neu effeithio ar amserlenni ar gyfer cyflawni a darparu diweddariadau gan adrannau mewnol allweddol, fel priffyrdd a chynllunio.

Mae ein Swyddogion Ymgysylltu Band Eang yn cydweithio â chymunedau a busnesau i'w helpu i gael gwell band eang drwy gynlluniau talebau ac ymyriadau eraill. Gallant gynnig cyngor ar dechnoleg amgen ac maent wrth law i wrando ar unrhyw bryderon sydd gan gymunedau neu fusnesau. Os nad oes gennych fand eang boddhaol, cysylltwch â'ch tîm lleol a byddant yn rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau.

Tîm Rhanbarthol Rhaglen Digidol

  • Gareth Jones

    Rheolwr Rhaglen Digidol

  • Bex Llewhellin

    Rheolwr Prosiect Digidol

  • Dija Oliver

    Rheolwr Prosiect Digidol

  • Gareth Thomas

    Cydlynydd y Rhaglen Digidol

  • Amy James

    Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Hyrwyddwyr Digidol Awdurdod Lleol