Band eang gwell ar gyfer ein safleoedd anoddaf eu cyrraedd

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i wella cysylltedd ar draws ein rhanbarth. Fodd bynnag, yn ôl Adolygiad o'r Farchnad Agored 2021, mae gennym 16,858 o safleoedd nad oes ganddynt fynediad at fand eang boddhaol ac nad ydynt mewn cynlluniau masnachol i'w huwchraddio erbyn mis Hydref 2025. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn sawl ffordd:

Os oes angen cyngor arnoch ynghylch cael band eang gwell, cysylltwch â'ch Swyddog Cefnogi ac Ymgysylltu Seilwaith Digidol lleol. Os hoffech siarad â ni am ein buddsoddiad arfaethedig i helpu cartrefi a busnesau i gael gwell band eang, anfonwch e-bost i digidol@bargenddinesigbaeabertawe.cymru