Mae ein partneriaid yn y sector cyhoeddus yn gweithredu rhaglen trawsnewid gwasanaethau ar raddfa fawr – gan wella profiad cwsmeriaid, symleiddio prosesau, a gwneud gwell defnydd o offer digidol, data a thechnoleg. Mae seilwaith digidol y rhanbarth yn hanfodol i gyflawni eu hagenda trawsnewid digidol yn llwyddiannus. 

Bydd Lleoedd Cysylltiedig yn hwyluso ac yn buddsoddi mewn darparu cysylltedd ar gyfradd gigabit a seilwaith cysylltiedig i safleoedd strategol allweddol a pharthau twf economaidd ar draws y rhanbarth.

Rydym yn cydnabod y bydd y buddsoddiad hwn ond yn effeithiol os na chaiff ein preswylwyr a'n busnesau eu gadael ar ôl ar y daith hon. Mae band eang gwell i bawb a thirwedd sy'n gynhwysol yn ddigidol yn rhan o ddyheadau ein rhaglen. Mae hyn yn golygu – cymunedau a busnesau sydd wedi'u cysylltu'n well, gwell sgiliau digidol a llythrennedd a mynediad fforddiadwy i'r rhyngrwyd.

Yn ddiweddar rydym wedi penodi tîm o hyrwyddwyr digidol ym mhob awdurdod lleol. Mae Rheolwyr Seilwaith y Genhedlaeth Nesaf yn gweithio gyda chyflenwyr i'w cefnogi gyda'u proses gyflwyno fasnachol, gan fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau a gweithredu fel un pwynt cyswllt i gysylltu ag adrannau allweddol fel priffyrdd, cynllunio ac ati. Mae ein Swyddogion Cefnogi ac Ymgysylltu wrth law i gefnogi cymunedau a busnesau i gael band eang gwell drwy gynlluniau talebau ac ymyriadau eraill.

Prif amcanion Lleoedd Cysylltiedig yw:

Bydd sicrhau bod gan ein parthau twf economaidd allweddol gysylltedd rhagorol yn denu gweithlu digidol, yn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth, yn sbarduno arloesedd, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer busnesau newydd ac yn cynyddu cynhyrchiant. Rhagwelir y bydd hyn yn rhoi budd uniongyrchol o fwy na £200 miliwn i'r rhanbarth.

Os hoffech chi wybod rhagor am y buddsoddiad hwn a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd, cysylltwch â ni. – digidol@bargenddinesigbaeabertawe.cymru.