Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau'r cyllid i bortffolio buddsoddi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn yr wythnosau nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol.

Mae tri o brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe eisoes wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, Ardal Forol Doc Penfro, a chanolfan greadigol a digidol Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd pedwar prosiect arall hefyd yn cael eu hystyried yn fuan i'w cymeradwyo'n derfynol gan y ddwy lywodraeth. Mae'r rhain yn cynnwys prosiect Pentre Awel a gynigir ar gyfer Llanelli a'r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel a gynigir ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â'r prosiectau Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer a Seilwaith Digidol rhanbarthol a fydd o fudd i breswylwyr a busnesau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Pan fydd y swm hwn o £18 miliwn wedi’i ryddhau, bydd portffolio'r Fargen Ddinesig wedi sicrhau £36 miliwn o’r £241 miliwn gan y naill lywodraeth a'r llall hyd yn hyn, a bydd rhagor o gyllid tebyg yn cael ei ryddhau yn y dyfodol.

“Mae hyn yn newyddion gwych i drigolion a busnesau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe oherwydd bydd yn cynorthwyo i gyflwyno nifer o raglenni a phrosiectau seilwaith cyffrous a fydd yn creu miloedd o swyddi sy'n talu'n dda, gan helpu i gyflymu adferiad economaidd rhanbarthol yn dilyn Covid-19.

“Mae sawl prosiect naill ai eisoes ar waith neu ar y safle, gan gynnwys cam un Yr Egin yng Nghaerfyrddin a’r datblygiad arena dan do yn Abertawe a fydd yn agor ddiwedd 2021. Bydd prosiectau eraill ar waith cyn hir er budd trigolion Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

"Ynghyd â'r pedwar prosiect pellach sy'n cael eu hystyried yn fuan gan y ddwy lywodraeth i'w cymeradwyo'n derfynol, mae'r gwaith o gynllunio achos busnes manwl yn mynd rhagddo ar gyfer dau o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig: y prosiect campysau gwyddor bywyd a llesiant a gynigir ar gyfer Abertawe, a menter sgiliau a thalentau ranbarthol a fydd yn creu llwybrau hyfforddiant i bobl leol gael mynediad at y swyddi o werth uchel sy'n cael eu creu.

“Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn o gynnydd sylweddol yn achos Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n dyst i ymrwymiad yr holl bartneriaid dan sylw a llawer iawn o waith caled yn y cefndir.”

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwneud cynnydd arbennig. Gyda sawl prosiect mawr eisoes ar y gweill, bydd yr arian hwn gan Lywodraeth y DU a phartneriaid, a gaiff ei ryddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, yn golygu y bydd y momentwm yn parhau yn 2021.

“Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi bargeinion twf sy’n cwmpasu pob rhan o Gymru. Byddant yn ein helpu i ailgydio mewn bywyd mewn modd cryf a gwell yn sgil effaith ddinistriol Covid-19, gan greu a chynnal swyddi ym mhob rhan o'r wlad ac adfywio economïau lleol.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd parhaus yn ogystal â chwblhau prosiectau  diweddaraf Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a bydd rhagor ar y gweill yn ystod y flwyddyn.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn hwb i’r rhanbarth ac rwy’n falch iawn ein bod bellach yn rhyddhau £18m arall i gyflymu datblygiad rhagor o brosiectau er mwyn hybu'r economi leol.

“Mae cynnydd wedi parhau ar gyflymder dros y chwe mis diwethaf er gwaethaf effaith enfawr coronafeirws a bydd mentrau fel hyn yn allweddol i sicrhau y bydd twf economaidd fel ag yr oedd cyn y feirws. Rwy'n edrych ymlaen at weld rhagor o gynnydd wrth i'r Fargen Ddinesig gael ei chyflwyno."

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.