Caffael

Rydym yng nghanol cyfnod o newid, wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddatgan argyfwng hinsawdd, ac yn sgil yr ansicrwydd sy'n deillio o Brexit ac effeithiau parhaus anhysbys pandemig COVID-19.

Mae'n rhaid i'n dull o gaffael fod yn gynaliadwy er mwyn adeiladu dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol.

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (2015) yn mabwysiadu diffiniad y Tasglu Caffael Cynaliadwy o gaffael fel a ganlyn:

 “...proses lle mae sefydliadau yn diwallu eu hanghenion o ran nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy'n sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan yn nhermau cynhyrchu manteision, nid yn unig i’r sefydliad caffael, ond hefyd i'r gymdeithas a'r economi, gan greu’r difrod lleiaf i'r amgylchedd”.

Rydym am sicrhau y gall ein dinasyddion a'r gadwyn gyflenwi ranbarthol elwa ar y portffolio, gan wella'r economi gyffredinol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae rhanddeiliaid ein portffolio yn cydnabod bod sicrhau bod egwyddorion caffael y Fargen Ddinesig yn cael eu mabwysiadu gan holl randdeiliaid y prosiect, swyddogion arweiniol a chyflenwyr yn allweddol i gyflawni hyn.

Y 5 Egwyddor Gaffael:

Dim ond rhan gyntaf y broses yw caffael cyflenwyr ar gyfer y cyfnod adeiladu; mae'r Egwyddorion yn edrych y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu cychwynnol a, lle bo'n briodol, maent hefyd yn berthnasol i wasanaeth gweithredol yr asedau pan gânt eu hadeiladu.

Mae dogfen ynghylch gwaith caffael sydd ar y gweill wedi cael ei llunio sy'n dangos yr hyn y mae pob prosiect yn bwriadu ei gaffael a'r llwybr caffael a phryd y caiff tendrau eu cyhoeddi.