Mae digwyddiad 'gosod carreg goffa' wedi cael ei gynnal wrth i waith adeiladu datblygiad swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe barhau.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024, a bydd y datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin, unwaith y bydd ar agor ac yn weithredol, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Mae'r digwyddiad gosod carreg gopa yn nodi cwblhau nodwedd adeileddol uchaf y datblygiad saith llawr.

Mae'r datblygiad yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

Bouygues UK sy'n arwain gwaith adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r digwyddiad gosod carreg goffa yn nodi carreg filltir arall ar gyfer adeiladu'r cynllun arloesol hwn y mae ei angen gan fod prinder swyddfeydd o ansawdd uchel yn Abertawe.

"Bydd y datblygiad hwn, y dechreuir ar y gwaith dodrefnu mewnol yn fuan, yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe unwaith y bydd ar agor ac yn weithredol.

"Mae mwy o waith wedi'i wneud yn ddiweddar hefyd i farchnata'r lleoedd yno, gan adeiladu ar y trafodaethau cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd gyda nifer o denantiaid posib."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r datblygiad hwn yn dilyn buddsoddiad sylweddol yng ngolwg a naws Ffordd y Brenin i gyflwyno amgylchedd gwyrddach, mwy pleserus yno i fusnesau, cerddwyr a modurwyr.

"Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd yn gwella golwg yr ardal ymhellach, yn creu lle ar gyfer busnesau entrepreneuraidd ac yn cyfuno â chynlluniau eraill gerllaw i gynhyrchu mwy o fasnach ar gyfer busnesau eraill canol y ddinas fel siopau a bwytai, gan helpu i ddenu mwy fyth o fuddsoddiad yn y dyfodol."

Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, "Roedd yn bleser gennyf fynd i'r garreg filltir gyffrous hon yng ngwaith adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin yn Abertawe. Mae Llywodraeth y DU yn falch o'n buddsoddiad ym Margen Ddinesig Bae Abertawe sydd, ynghyd â'n partneriaid, wedi adeiladu'r cyfleuster gwych hwn ar gyfer y ddinas.

"Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar greu swyddi a lledaenu ffyniant yng Nghymru a bydd y datblygiad hwn yn gwneud yr union beth hynny drwy ddarparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau sy'n tyfu."

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddyluniwyd gan Architecture 00 yn cynnwys mannau cyhoeddus arloesol gydag ardaloedd penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod. Mae'r rhain yn cynnwys dros 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd gradd A, yn ogystal â mannau manwerthu, bwyd a diod, neuadd ddigwyddiadau, lleoedd gweithio hyblyg a wasanaethir.

Bydd y cynllun yn cynnwys paneli solar yn cael eu gosod ar ben yr adeilad, yn ogystal â systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni a nodwedd dal dŵr glaw i helpu gyda'r cyflenwad dŵr i blanhigion a choed yn y datblygiad ac o'i gwmpas. Bydd hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

image