Mae'n agos i 240,000 o ymwelwyr wedi ymweld ag Arena Abertawe ers iddi agor gyntaf i'r cyhoedd flwyddyn yn ôl.

Mae'r arena a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn sefyll yng nghanol ardal Bae Copr £135m y ddinas sydd hefyd yn cynnwys parc arfordirol, y bont newydd dros Oystermouth Road a llawer o nodweddion eraill.

Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau prawf yn yr arena sydd â lle i 3,500 o bobl, John Bishop oedd y seren gyntaf i ymddangos ar y llwyfan yn y lleoliad newydd ar 15 Mawrth y llynedd.

Mae perfformiadau mawr eraill wedi'i ddilyn, gan gynnwys Jersey Boys, Alice Cooper and The Cult, Katherine Ryan, Royal Blood, Michael McIntyre a Bat Out of Hell.

Mae perfformiadau a gynhelir yn y misoedd sy'n dod yn yr arena'n cynnwys Billy Ocean, The Hollywood Vampires a The Proclaimers.

Mae'r arena wedi croesawu mwy na 80 o gynadleddau, seminarau a digwyddiadau corfforaethol dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys seremonïau graddio prifysgolion. Cynhelir Cynhadledd Canol Dinas Abertawe yn yr arena ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol ddydd Mercher 29 Mawrth.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae'n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers i'r arena agor gyntaf i'r cyhoedd, ond mae'r lleoliad wedi bod yn llwyddiant aruthrol.

"Drwy ategu'r cynnig mewn lleoliadau diwylliannol eraill yn y ddinas fel Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn, mae'r arena wedi dod ag adloniant o'r radd flaenaf o bob genre i Abertawe a de Cymru gyfan wrth greu llawer o gyfleoedd swyddi i bobl leol a hybu busnesau lleol eraill, diolch i gytundebau partner a noddi.

"Mae'r arena'n rhan o ardal gyffredinol Bae Copr sy'n helpu i adfywio canol ein dinas, creu gwell cysylltiadau â'r glannau a chreu lleoedd lle gall busnesau lleol sefydlu neu ehangu."

Mae elfen yr arena o ardal Bae Copr yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3b.

Meddai Lisa Mart, Cyfarwyddwr lleoliad Arena Abertawe, "Rydym wedi croesawu bron 240,000 o bobl i'r lleoliad ac wedi chwerthin, canu a llefain ochr yn ochr â nhw drwy'r cyfan. Rydym yn wirioneddol falch o'r digwyddiadau rydym wedi'u cynnal hyd yn hyn ac yn methu aros i barhau i ddatblygu a gwella'n cynnig.

"Mae gennym lechen lân o ddatblygiadau cyffrous i ganolbwyntio arnynt dros yr ychydig fisoedd nesaf - mae siop goffi ein lleoliad wedi'i hail-lansio, ac mae gennym gynnig lolfa a lletygarwch newydd sbon mewn partneriaeth â Bragdy Gŵyr.

"Rwyf am ddweud diolch enfawr i bawb am eich cefnogaeth barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddod ag adloniant byw a digwyddiadau diddorol i'r ddinas anhygoel hon."

Mae partneriaethau eraill Arena Abertawe â sefydliadau a busnesau lleol yn cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Prifysgol Abertawe, yr LC, Founders & Co, Rasoi, Delta By Marriott, Morgans Hotel, The Swigg a llawer o rai eraill.

Ewch i  https://cy.swansea-arena.co.uk/ i gael rhagor o wybodaeth am sioeau a digwyddiadau sydd ar ddod.

image