Mae tri o drigolion Llanelli wedi ymrwymo i fod yn Genhadon Cymunedol Bouygues UK ar gyfer ei brosiect adeiladu Pentre Awel, a’r gobaith yw y bydd mwy o bobl leol yn ymuno â’r cynllun.

Bydd y Cenhadon yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu a chyfathrebu â’r gymuned leol sy’n byw ac yn gweithio o amgylch y prosiect, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am wahanol gamau’r adeiladu, cynnydd y prosiect, yn ogystal ag unrhyw faterion neu bryderon sy’n codi yn ystod y gwaith adeiladu. 

Fel y contractwr arweiniol ar gyfer cam cyntaf cynllun Pentre Awel, mae Bouygues UK yn awyddus i’r gymuned gyfagos rannu eu syniadau a helpu i lunio’r prosiect. Felly, bydd gan y Cenhadon Cymunedol rôl ganolog yn y prosiect, yn ogystal â chael cipolwg arbennig ar gynnydd y prosiect fel y gallant gael gwybodaeth lawn amdano.

Gwnaeth y Cenhadon eu hymweliad cyntaf â’r safle lle buont yn cyfarfod ag Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cyngh. Hazel Evasns Gwnaethant hefyd gwrdd â thîm prosiect Pentre Awel Bouygues UK, dan arweiniad Peter Sharpe, a gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran y gwaith adeiladu.

Y datblygiad arloesol sy’n werth miliynau o bunnoedd, ac sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr, yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Bydd yn dod ag arloesi ym maes gwyddor bywyd ac arloesi busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.

Bydd y Cenhadon Cymunedol yn cael diweddariadau rheolaidd am y safle ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng Bouygues UK a’r gymuned leol.

Dywedodd Nina Williams, cynghorydd gwerth cymdeithasol Bouygues UK ar gyfer Pentre Awel, “Mae’r Cenhadon Cymunedol yn rhan allweddol o’n gwaith wrth gyflawni’r prosiect. Mae hwn yn gyfle gwych i aelodau’r gymuned leol ymgysylltu â’r prosiect, meddwl yn greadigol, a mynegi eu syniadau’n rhydd.

“Rydym yn gobeithio gweithio gyda’r Cenhadon i greu cyfleoedd gwirfoddoli i staff Bouygues UK. Dyma ffordd arall y gallwn gynyddu ymgysylltiad cymunedol, ond hefyd gwneud yn siŵr bod unrhyw wirfoddoli rydym yn cymryd rhan ynddo yn ystyrlon, a'i fod yn rhywbeth sydd ei angen mewn gwirionedd ar y rhai yn yr ardal leol, ac yn gwneud gwahaniaethau diriaethol i'r bobl sy'n byw yn lleol.

Ychwanegodd Nina: “Mae wedi bod yn ymweliad gwych, ac roedd yn gyfle ardderchog i’n cenhadon newydd weld cynnydd y prosiect presennol, yn ogystal â chwrdd â’r Cyng. Hazel Evans. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ymhellach wrth i’r prosiect ddatblygu.”

Meddai Roger James, sy’n un o’r Cenhadon: “Roedd gen i ddiddordeb yn holl brosiect Pentre Awel o’i ddyddiau cynllunio, felly pan ges i’r cyfle i fynychu digwyddiad Gwybodaeth Gymunedol a drefnwyd gan Bouygues a Chyngor Sir Gâr, fe neidiais at y cyfle. Mae ymwneud â’r prosiect ers hynny wedi bod yn brofiad cadarnhaol ifi.

“Gwnaethpwyd argraff arna i gan y ffordd y mae Bouygues wedi gweithio i ddiogelu’r amgylchedd naturiol, cynnwys plant ysgol lleol, defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd a chynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol. Wrth i’r prosiect symud yn ei flaen, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r defnyddwyr terfynol i ddarparu cyfleuster sy’n hygyrch i bawb.”

Ychwanegodd Raymond Majer, sydd hefyd wedi ymuno â’r cynllun: “Gan fy mod i’n byw ym Machynys, ac yn gallu gweld yr adeiladau’n codi ym Mhentre Awel o fy ffenest gefn, mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n brosiect mawr iawn i Lanelli. Rwy’n falch iawn bod Bouygues yn cynnwys y gymuned leol ac yn hapus iawn y gallaf gymryd rhan, hyd yn oed mewn ffordd fach, trwy fod yn gennad cymunedol.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaet: “Mae pobl leol wrth galon y datblygiad hwn, ac mae cael cyfle i weithio gyda'n llysgenhadon, sy’n caniatáu iddyn nhw fod yn rhan o'r datblygiad, yn beth gwych ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw eto cyn hir."

Mae’r fenter Cenhadon Cymunedol yn rhan o raglen ehangach o fuddion cymunedol i’w darparu yn ystod datblygiad Parth 1 Pentre Awel i wireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys gwaith recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu, cenhadon ysgol, gweithgareddau STEM ac ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi.

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd Pentre Awel yn cynnwys canolfan hamdden a phwll hydrotherapi newydd o'r radd flaenaf ynghyd â gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a chyflawni clinigol; a chanolfan sgiliau lles. Y tu allan, bydd yn cynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, cerdded a beicio.

Mae’r cynllun gwirioneddol gydweithredol yn cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol gan Gyngor Sir Gâr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a cholegau, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn). Ei nod yw creu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb o fwy na £450m i’r economi leol.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn Gennad Cymunedol ym Mhentre Awel gysylltu â Nina Williams yn: nina.williams@bouygues-uk.com

image