Carreg filltir bwysig arall ar y daith i drawsnewid cysylltedd digidol ledled Castell-nedd Port Talbot. 

Disgwylir i Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe drawsnewid cysylltedd yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy fuddsoddiad sylweddol o tua £505,000 fel rhan o'r fenter ehangach gwerth £1.7 miliwn ar gyfer y rhanbarth.

Mae'r rhaglen Adeiladu Seilwaith Ffeibr Llawn yn cael ei rhoi ar waith gan ddefnyddio Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, sef rhwydwaith diogel Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus.  Bydd y cynlluniau arfaethedig yn dod â chysylltedd sy'n diogelu at y dyfodol i 68 o asedau'r sector cyhoeddus ledled rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe a 401 o safleoedd ychwanegol, gan hybu twf economaidd a thrawsnewid digidol.

Disgwylir i'r prosiect, sydd wedi cyrraedd y cam gwneud arolwg ar hyn o bryd, gael ei gwblhau ym mis Medi 2025 ac mae'n rhan hanfodol o ffrwd waith Lleoedd Cysylltiedig y Rhaglen Seilwaith Digidol. Gyda'r nod o sicrhau bod gan barthau twf economaidd yn y rhanbarth gysylltedd arloesol, mae'n garreg filltir bwysig ar y daith tuag at sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot wedi'i drawsnewid yn ddigidol ac yn gysylltiedig. 

Bydd y buddsoddiad yn trawsnewid y safleoedd targed yn y sector cyhoeddus drwy ddarparu cysylltedd ar gyfradd gigabit i asedau allweddol fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, parciau gwledig, ac adeiladau cyngor. Bydd y fenter hon yn galluogi'r sefydliadau hyn i hybu eu hagendâu digidol, gan sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot ar flaen y gad o ran cysylltedd digidol i gefnogi twf economaidd.

Mae Parc Margam wedi'i glustnodi fel un o'r lleoliadau allweddol yn yr awdurdod lleol i dderbyn y buddsoddiad hwn.  Mae'r parc, sy'n enwog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn lle sy'n cynnal llawer o ddigwyddiadau, wedi cael problemau yn ymwneud â chysylltedd , oherwydd ei natur wledig a'r diffyg seilwaith ffeibr yn yr ardal.  Erbyn hyn, gyda rhaglen adeiladu ffeibr llawn ar y gweill, bydd cyfle i fanteisio ar gynigion digidol newydd arloesol, a fydd yn sicr yn denu mwy o ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Hamdden, "Mae Parc Margam yn atyniad pwysig ac yn lleoliad allweddol yng Nghymru, sydd wedi'i ddal yn ôl gan gysylltedd gwael dros y blynyddoedd.  Bydd ffeibr llawn yn gwella profiad ymwelwyr ac yn hyrwyddo'r hyn y gall y Parc ei gynnig i'r miloedd sy'n ymweld bob blwyddyn. 

Mae'r cynlluniau arfaethedig hyn yn gam ymlaen i'w groesawu wrth bontio'r rhaniad digidol yn ein rhanbarth.”

Yn ogystal â safleoedd yn y sector cyhoeddus, bydd trigolion lleol o amgylch y lleoliadau hyn yn gallu manteisio ar opsiynau cysylltedd gwell o ganlyniad i'r buddsoddiad ffeibr llawn, sy'n gam sylweddol tuag at bontio'r rhaniad digidol a chyflwyno cysylltedd uwch i ardaloedd na fyddent fel arall yn cael gwasanaeth digonol.

Bydd cyflwyno cysylltedd ffeibr llawn (cysylltiad ffeibr i'r adeilad) yn arbed costau sylweddol i awdurdodau lleol, gan ei fod yn ateb tymor hir mwy dibynadwy a rhatach na rhai o'r opsiynau cysylltedd presennol y mae rhai safleoedd yn gorfod eu defnyddio ar hyn o bryd.  Yn ogystal â hyn, mae cysylltiad ffeibr i'r adeilad yn dechnoleg y gellir ei hehangu, sy'n golygu y bydd y safleoedd hyn yn cael eu diogelu ar gyfer mwy o ddefnydd yn y dyfodol. 

Dywedodd Chris Owen, Prif Swyddog Digidol Castell-nedd Port Talbot, "Mae Castell-nedd Port Talbot ymhell ar y ffordd i fod yn rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technolegau datblygol.  Mae'r cynlluniau hyn yn fuddsoddiad i'w groesawu yn yr ardal a byddant yn sicr yn cyfrannu at dwf economaidd, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a chymuned fwy cysylltiedig a chynhwysol.”

Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau y bydd y rhanbarth yn barod yn y dyfodol drwy osod sylfaen gyda chysylltedd y gellir ei ehangu i ateb y galw cynyddol. Mae'n cyd-fynd â nod cyffredinol y Rhaglen Seilwaith Digidol o greu tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb, gan ddangos nad buddsoddiad mewn technoleg yn unig yw Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe; mae'n fuddsoddiad yn ffyniant Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: broadband@npt.gov.uk