Mae Canolfan Dechnoleg y Bae, y ganolfan ynni-gadarnhaol sydd wedi ennill gwobrau, ym Mharc Ynni Baglan, wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS.

Croesawyd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r adeilad newydd ddydd Iau, 22 Mehefin 2023, gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt.

Meddai’r Cyngh Hunt: “Gan gefnogi Strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor hwn, mae’r ganolfan yn newid mawr yn y dull o fynd ati i gynllunio adeiladau ac mae’r tra rhagori ar gysyniad ‘sero net’ i ddarparu’r hyn sydd i bob pwrpas yn adeilad fel pwerdy – y cyfleuster masnachol cyntaf yng Nghymru sy’n ynni-gadarnhaol wrth weithredu.”

Datblygwyd y ganolfan gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu mwy o eiddo masnachol mewn ymateb i’r ffaith fod y Ganolfan Arloesi gyfagos yn llawn, a’r galw am leoliadau busnes o ansawdd uchel.

Dyfarnwyd £3.75m o Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop i’r cynllun £8.5m, ynghyd â £3m o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a £500,000 o Gronfa Ysgogi Economaidd Llywodraeth Cymru. Ymrwymodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot £1.25m.

Mae’r ganolfan wedi ennill sawl gwobr hyd yn hyn gan gynnwys:

Mae’r ganolfan 25,000 troedfedd sgwâr yn gartref i swyddfeydd a labordai ar gyfer cwmnïau ar eu prifiant, busnesau cynhenid a buddsoddwyr am i mewn sy’n chwilio am safle i sefydlu a thyfu’u gwaith – gan helpu i gefnogi arloesi, arallgyfeirio a thwf yr economi ranbarthol.  

Mae ganddi ffocws ar arloesi o ystod o sectorau diwydiannol gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd a gweithgareddau busnes arloesol tebyg. Fe’i lleolir yn un o leoliadau busnes gorau Cymru, wrth ochr yr M4 a phrif reilffordd Abertawe i Lundain.

Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Y nod yw creu amgylchedd ble gall busnesau ffynnu a ble gellir datblygu a masnacheiddio nwyddau i gefnogi twf gweithgareddau busnes rhanbarthol a chyflogaeth.”

Ers ei hagor, mae’r ganolfan wedi denu tenantiaid arloesol ac mae bellach yn edrych am denantiaid newydd all alw’r ganolfan flaengar newydd hon yn gartref.

Mae’r ystod o denantiaid sy’n arwain y gad o ran eu diwydiant hyd yn hyn yn cynnwys ProColl Ltd, cwmni bioleg synthetig, McCann and Partners sy’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau adeiladu sy’n ymwneud â systemau peirianneg mecanyddol, trydanol ac iechyd cyhoeddus, SWS Certification Ltd, arweinydd ym maes dylunio mewnol awyrennau, Lyris Technology Ltd a Crossflow Energy Company Ltd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David TC Davies: “Pleser o’r mwyaf yw cael agor Canolfan Dechnoleg y Bae yn swyddogol. Blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw tyfu economi fodern i Gymru, creu swyddi sy’n talu’n dda a thaenu ffyniant, ac ar yr un pryd gweithio tuag at ein huchelgais sero net. Dyma le ble gall syniadau blaengar dyfu’n fusnesau llwyddiannus, a dyma’r adeilad masnachol cyntaf yng Nghymru sy’n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio.

“Rydyn ni’n falch o fuddsoddi yn y cyfleuster hwn, law yn llaw â’n partneriaid, sy’n wirioneddol flaengar.”

Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: “Rwy’n croesawu’n fawr agoriad Canolfan Dechnoleg y Bae newydd ar Barc Ynni Baglan. Mae hwn yn gyfleuster newydd gwych, a adeiladwyd gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

 “Wrth i ni fuddsoddi heddiw ar gyfer economi Gymreig wyrddach, uwch-dechnoleg ac arloesol, bydd prosiectau fel y Ganolfan Dechnoleg, wedi’u hategu gan gynigion Celtic Freeport ar dechnolegau carbon isel, gan gynnwys gwynt ar y môr fel y bo’r angen, hydrogen, dal carbon a biodanwyddau yn gyrru ein nod i’w gyrraedd. sero net. Gyda phartneriaethau pwerus, hirdymor, mae gan y rhanbarth gyfle cyffrous i ennill miloedd o swyddi medrus, newydd o ansawdd uchel a gyrfaoedd parhaol.

 “Rwyf wedi gweithio’n galed i helpu i sicrhau dyfodol sefydlog i bartneriaid ar draws Parc Ynni Baglan ac rwy’n gobeithio y gall y Ganolfan Dechnoleg newydd hon ddarparu ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud, gan weithio’n agos ac ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus, diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru i ddatgarboneiddio ein heconomi. , adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i ni gyd.”

image