Comisiynwyd yr adolygiad mewnol gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig er mwyn cyd-fynd ag adolygiad mewnol a gynhaliwyd gan Actica Consulting ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd y Fargen Ddinesig, yn dweud y comisiynwyd yr adolygiad mewnol i sicrhau bod trefniadau llywodraethu'r Fargen Ddinesig yn ddigon cadarn.

Mae'n dweud y bydd hyn yn helpu i ddarparu'r rhaglen fuddsoddi cyn gynted â phosibl er budd busnesau a phreswylwyr ledled de-orllewin Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Cynhaliwyd yr adolygiad hwn ar y cyd ag adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o raglen y Fargen Ddinesig, ac roedd yn ceisio sicrhau y bydd y Fargen Ddinesig yn darparu buddion economaidd ar gyfer y rhanbarth.

"Bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad mewnol yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig yn ei gyfarfod nesaf.

“Mae ceisio sicrhau bod trefniadau llywodraethu mor gadarn â phosibl yn dangos bod y rhaglen 15 mlynedd yn dal yn y camau cyntaf, ond rydym yn barod i gefnogi unrhyw argymhellion a fyddai o fantais i ffyniant economaidd y rhanbarth yn y dyfodol drwy gyflymu'r gwaith o gyflawni'r Fargen Ddinesig.”

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn werth £1.8 biliwn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd da.

Adolygiad mewnol