Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhannu ei gweledigaeth ar gyfer Y Matrics Arloesi, y cam nesaf yn Ardal Arloesi’r Brifysgol, rhan o ddatblygiad trawsnewidiol Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe sy’n cynnwys adeilad yr IQ a’r Fforwm.  Y nod yw creu cymdogaeth fywiog lle gall y Brifysgol gydleoli a chydweithio â busnesau a chanolfannau ymchwil arloesol.

Mae’r Matrics Arloesi’n ganolog i uchelgais y Brifysgol a bydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer ymchwil a chyfnewid gwybodaeth y Drindod Dewi Sant i gysylltu â chwmnïau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig, microfentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr ar draws y sector, a’u cefnogi i ysgogi twf masnachol economi ddigidol ehangol Cymru. 

Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Matrics Arloesi’n annog ac yn cefnogi datblygu economi gynaliadwy, seiliedig ar arloesedd, a fydd yn cynyddu’n sylweddol allu Cymru i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru o adeiladu economi sy’n seiliedig ar wybodaeth, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Bydd yr adeilad carbon isel yn darparu 2,200 metr sgwâr o ofod llawr o ansawdd uchel, a bydd wedi’i leoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol sef IQ a’r Fforwm yng nghanol Ardal Arloesi Abertawe. Bydd y Matrics Arloesi hefyd yn darparu cyswllt hanfodol i gampws ehangach y Brifysgol yn Abertawe, gan gynnwys Technium 1 a 2, Canolfan Dylan Thomas, Campws Busnes Abertawe ac Ardal Gelfyddydol Dinefwr, ALEX ac Adeilad y BBC.

Mae 2022 yn gyfnod cyffrous i'r Brifysgol wrth i ni ddathlu ein daucanmlwyddiant, gan nodi 200 mlynedd ers gosod carreg sylfaen Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 a geni addysg uwch yng Nghymru.  Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Heddiw, mae gan y Brifysgol gampysau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd,

Mae'n briodol y byddwn, yn mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, yn gosod carreg sylfaen arall wrth i ni dorri’r tir ar gyfer y Matrics Arloesi, canolfan arloesi a menter ddigidol newydd.

Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hanes a’n cysylltiad ag ef, yn enwedig y modd y mae wedi rhoi’r penderfyniad a’r hyder inni i siapio ein dyfodol ein hunain yn ogystal â helpu siapio bywydau unigolion a chymunedau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.”

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd gwaith ar y safle’n cychwyn ym mis Awst/Medi 2022 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst 2023.

image