Mae'r gwaith adeiladu cychwynnol ar gyfer dau islawr cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe, wedi cael ei gwblhau, gan baratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu tri llawr arall ar lefel y stryd ac uwch ei phen.

Bouygues UK yw'r prif gontractwyr ar gyfer y prosiect, sy'n datblygu ar safle lle bu sawl clwb nos yn y gorffennol. Roedd y rhain yn cynnwys y Top Rank, Ritzy's, Time and Envy, ac, yn fwyaf diweddar, Oceana.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei orffen erbyn diwedd 2023, a bydd y datblygiad yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd y cynllun yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.

Bydd yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a rhwydweithio hyblyg. Bydd cysylltiad newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin hefyd yn cael ei adeiladu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma garreg filltir arall ar gyfer adeiladu'r datblygiad newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n golygu y bydd cynnydd yn y dyfodol yn fwy gweladwy fyth i fodurwyr, beicwyr, a cherddwyr sy'n mynd heibio'r safle bob dydd.

"Gwyddwn o'n trafodaethau â chwmnïau technolegol a digidol ac entrepreneuriaid lleol fod angen am y math hwn o le swyddfa modern a hyblyg yn Abertawe.

"Bydd y datblygiad hwn yn ateb y galw, yn helpu i atal busnesau o'r math hwn rhag adleoli i ddinasoedd eraill ac yn arwain at ddenu rhagor o bobl i'r ardal a mwy o wariant ar gyfer busnesau."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae hyn yn dilyn y gwaith mawr i drawsnewid Ffordd y Brenin i greu amgylchedd mwy addas i fusnesau wrth i raglen adfywio £1bn Abertawe barhau.

"Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras ar y to a fydd yn wyrdd a balconïau'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe."

Mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn ac fe'i cefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae gwaith adeiladu'n parhau gerllaw hefyd ar brosiect 'adeilad byw' a arweinir gan Hacer Developments a fydd ymysg y cynlluniau cyntaf o'u bath yn y DU. Bydd yr 'adeilad byw' sy'n cynnwys hen safle Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr cyfagos, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi. Bydd Pobl Group yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r cynllun.

image