Mae Canolfan S4C Yr Egin – canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin -  yn dathlu ei phen-blwydd yn 5 oed.

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi ennill ei phlwyf wrth galon campws Caerfyrddin y Brifysgol gan ddarparu cyfleoedd i'r diwydiannau creadigol, myfyrwyr a staff yn ogystal â'r gymuned leol i greu, dysgu a mwynhau ei chyfleusterau blaengar.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae'r Egin wedi tyfu’n lleoliad ddiwylliannol bywiog, ac yn ganolfan fusnes a chreadigol. Mae'r Egin yn ddatblygiad trawsnewidiol, yn bencadlys S4C ac 16 o sefydliadau tenant yn ogystal â chwmnïau a gweithwyr llawrydd eraill sy'n defnyddio'r cyfleusterau desgiau poeth.  Gyda 100% o’r gofod sydd i'w logi wedi’i feddiannu, mae'r adeilad eiconig yn ganolbwynt creadigol a diwylliannol i'r gymuned greadigol yn ogystal ag ar gyfer cymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth.

Mae'r Egin, sy'n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, stiwdio recordio, ystafell sgrîn werdd, man perfformio mawr, a chaffi, wedi darparu ar gyfer nifer o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a dangosiadau i aelodau'r cyhoedd yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a digidol.

Yn ystod 2022-2023, ymgysylltodd dros 12,000 o bobl â'r Egin drwy gymryd rhan neu fynychu gweithdai, cyfarfodydd, cynadleddau, digwyddiadau neu berfformiadau.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae effaith ariannol Yr Egin ar yr economi yn dangos fod: 

Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at effaith Yr Egin ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, sgiliau a hyfforddiant ac ymgysylltiad ehangach â'r gymuned leol, sy'n helpu i leihau allfudo ac yn galluogi siaradwyr Cymraeg o oedran gweithio i gyfrannu i weithgareddau Cymraeg a chynnal gwead cymdeithasol a diwylliannol eu hardal.

Mae diwrnod o ddathlu wedi cael ei drefnu ddydd Iau, 26 Hydref yn Yr Egin lle gwahoddir rhanddeiliaid i nodi'r garreg filltir hon.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus David T C Davies:
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi datblygiad Yr Egin drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'r effaith y mae wedi'i chael ar yr economi leol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y swyddi y mae wedi'u darparu i'r ardal, wedi bod yn arbennig.

"Mae Llywodraeth y DU hefyd yn gefnogwr i'r Gymraeg a'r diwydiannau creadigol Cymraeg ac mae'n bwysig bod y cyfleuster hwn a'r bobl sy'n gweithio yno yn parhau i ffynnu i'r dyfodol."

Meddai Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething:

"Mae'n newyddion gwych bod Yr Egin wedi dod yn gymuned mor brysur o greadigrwydd ar ei phen-blwydd yn bump oed lle mae ffocws ar rannu, cydweithredu a datblygu busnes. Mae'n wych gweld cyfraniad Yr Egin at greu swyddi o safon, yn agosach at ble mae pobl yn byw a'i fod yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i economi gorllewin Cymru. Yn ogystal, mae'n gatalydd ar gyfer hyrwyddo a chryfhau'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Pob dymuniad da i'r tîm am y pum mlynedd nesaf."

Dywedodd Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans, KC:

"Mae’n braf cael nodi pum mlwyddiant Yr Egin ac rwy'n falch iawn y bydd partneriaid allweddol sydd wedi bod yn rhan o'r garreg filltir arwyddocaol hon gyda ni i ddathlu'r gwaith rhagorol sydd wedi'i gyflawni ers i'r ganolfan agor ei drysau am y tro cyntaf.

"Mae'r Egin wedi datblygu’n gymuned greadigol a digidol fywiog sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i'r cyhoedd.  Mae'n galonogol iawn nodi ei fod wedi cael effaith economaidd a diwylliannol mor gadarnhaol ar y rhanbarth a thu hwnt".

Meddai’r Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae i'r Egin ran ganolog o fewn economi Sir Gaerfyrddin a hefyd o fewn rhwydwaith diwylliannol cyfoethog ein sir a'n gwlad. Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Egin a phob llwyddiant i'r 5 mlynedd nesaf a thu hwnt."

I gloi dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:

"Mae arwain y prosiect trawsnewidiol hwn a datblygu clwstwr creadigol yng ngorllewin Cymru wedi rhoi boddhad mawr i mi. Mae gwerth a manteision Yr Egin yn amhrisiadwy yn fy marn i, ac mae ei effaith gychwynnol wedi bod yn sylweddol yn ôl yr astudiaeth ddiweddar.

"Mae'r Egin wedi cael effaith uniongyrchol ar fywydau a bywoliaeth pobl, effaith gadarnhaol ar hyder a defnydd pobl o'r Gymraeg yn ogystal ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i fod yn greadigol ac uchelgeisiol. Rwy eisoes yn gyffrous iawn wrth feddwl am beth fydd yn digwydd ac yn cael ei gyflawni yn y pum mlynedd nesaf."