Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin sydd wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe ar hen safle clwb nos Oceana yn cael ei dargedu'n benodol at y sectorau digidol, technoleg a chreadigol. 71/72 Kingsway is part of the Swansea City and Waterfront Digital District project. 

JLL and Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

Mae'r prif gontractwyr Bouygues UK yn gwneud cynnydd sylweddol ar y datblygiad saith llawr, a disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddyluniwyd gan Architecture 00 yn cynnwys mannau cyhoeddus arloesol gydag ardaloedd penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod. Maent yn cynnwys mannau manwerthu, bwyd a diod, neuadd ddigwyddiadau, lleoedd gweithio hyblyg a wasanaethir a thros 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A.

Mae llyfryn marchnata ar gyfer y datblygiad bellach ar gael sy'n cynnwys delweddau a gynhyrchir gan gyfrifiadur. Mae'r delweddau yn rhoi bywyd i'r adeilad ac yn dangos yr ardaloedd trawiadol a'r gorffeniadau ansawdd uchel, yn enwedig y dderbynfa fawr uchder dwbl, yr awditoriwm ysbrydoledig, swyddfeydd gwydrog uchder llawn a theras ar y to ar y llawr uchaf.

Unwaith bydd yr adeilad yn weithredol, bydd y datblygiad yn darparu lle i 600 o weithwyr a bydd yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Bydd paneli solar yn cael eu gosod ar ben yr adeilad ac yn ogystal â hyn  bydd yn cynnwys system wresogi dan y llawr, systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni a nodwedd dal dŵr glaw i helpu gyda'r cyflenwad dŵr i blanhigion a choed yn y datblygiad ac o'i gwmpas.

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae prinder swyddfeydd o ansawdd uchel yn Abertawe felly bydd y datblygiad hwn yn helpu i ateb y galw hwnnw wrth gefnogi masnachwyr canol y ddinas oherwydd y cannoedd o bobl a fydd yn gweithio yno.

"Mae'r gwaith adeiladu'n mynd yn ei flaen yn gyflym, gyda gwaith ar lawr uchaf y datblygiad yn parhau a gwydro'n dechrau cael ei osod.

"Mae hyn yn golygu mai nawr yw'r amser iawn i ddechrau marchnata'r swyddfeydd yn y cynllun, a fydd yn adeiladu ar y trafodaethau cadarnhaol rydym eisoes yn eu cael â nifer o denantiaid posib.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r delweddau cysyniadol newydd sy'n rhan o'r llyfryn marchnata yn dangos y bydd yn ddatblygiad o safon. Y ogystal â nodweddion amgylcheddol neilltuol, cysylltedd digidol o'r ansawdd gorau a lleoedd gweithio hyblyg, bydd y cynllun yn elwa o oleuni naturiol rhagorol.

"Bydd hefyd yn cynnwys balconïau, llawer o wyrddni, mannau cyhoeddus, teras ar y to gyda golygfeydd dros Fae Abertawe, atria, mannau dynodedig ar gyfer digwyddiadau, mannau cwrdd ac unedau bwyd, diod a manwerthu."

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am ofyn am gopi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill â Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com

Bydd nodweddion eraill y cynllun yn cynnwys adeiladu cyswllt newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin.

image