Mae cymuned Doc Penfro wedi dod at ei gilydd i greu gwaddol digidol yn dathlu prosiect arloesol gwerth £60 miliwn yng nghalon eu cymuned. Mae’r gwaith ar Farina Doc Penfro yn mynd rhagddo i drawsnewid Porthladd Penfro yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg forol a gweithgarwch ynni adnewyddadwy, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a ffyniant economaidd ar gyfer y rhanbarth.

Comisiynodd partneriaid y prosiect – Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, Offshore Renewable Energy Catapult a Celtic Sea Power – Elusen Aloud, sy’n hwyluso rhaglenni canu amrywiol ledled Cymru, i ddatblygu fideo cerddoriaeth yn cynnwys disgyblion ysgol lleol ac aelodau o’r gymuned i hyrwyddo’r cyfleoedd sy’n cael eu creu yn yr ardal a chreu ymdeimlad o falchder am y prosiect.

Treuliodd arweinwyr corawl o’r Elusen Aloud ddau ddiwrnod yn Ysgol Harri Tudur yn cynnal gweithdai cyfansoddi caneuon lle bu’r disgyblion yn cyfansoddi eu penillion eu hunain a berfformiwyd ac a ffilmiwyd yn broffesiynol. Ysgrifennwyd y gytgan gan Alex Stacey sy’n aelod o dîm y gantores a’r gyfansoddwraig Amy Wadge. Mae Amy wedi gweithio gyda sêr fel Ed Sheeran, James Blunt ac Ella Henderson ac yn fwy diweddar cyd-ysgrifennodd y gân ‘Space Man’ a ddaeth yn ail yng Nghystadleuaeth Eurovision.

Ar ddiwrnod olaf y prosiect, cyfarfu’r tîm â grwpiau lleol amrywiol, busnesau ac unigolion yn Noc Penfro a ymunodd yn y gân newydd ac ymddangos ar y fideo cerddoriaeth, gan gynnwys gwirfoddolwyr o Gymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru, Mainstay Marine Solutions a Chyngor Tref Doc Penfro.

Meddai Hollie Phillips, Cynorthwyydd Cyswllt Cymunedol Porthladd Aberdaugleddau: “Mae wedi bod yn anhygoel cydweithio o’r dechrau i’r diwedd. Roeddem yn gallu siarad gyda disgyblion o Ysgol Harri Tudur am brosiect Morol Doc Penfro er mwyn helpu i’w hysbrydoli i ysgrifennu’r geiriau a rhoi gwybodaeth iddyn nhw am y datblygiadau sy’n digwydd yn eu tref. Gobeithio ein bod wedi sbarduno rhywfaint o ddiddordeb yn y mathau o yrfaoedd a allai fod ar gael iddyn nhw ar garreg y drws wrth i ni chwarae ein rhan yn yr ymdrech i gyrraedd targedau Sero Net y wlad, gan greu swyddi gwyrdd lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Stephen Wyatt, Cyfarwyddwr Strategaeth a Thechnoleg Newydd Offshore Renewable Energy CatapultL “Mae ORE Catapult yn falch iawn o gael cefnogi Elusen Aloud. Rydym yn ymfalchïo mewn cael gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a cherddorion, ac yn cael ein hysbrydoli gan eu hymrwymiad cyson i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu dyfodol gwych yn Sir Benfro a thu hwnt.”

Meddai Tom Hill, Rheolwr Cyflawni Prosiect META: “Mae dyfodol ein llwyddiant yn dibynnu ar ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae angen eu sgiliau, eu doniau a’u hangerdd arnom i gyflawni Sero Net. Mae nifer y cyfleoedd a’r gyrfaoedd cyffrous ar gyfer pobl Sir Benfro a Chymru yn enfawr. Gobeithio y bydd y fideo hwn yn sbarduno pobl ifanc ac yn tanio eu diddordeb a’u chwilfrydedd ym maes ynni morol.”

Meddai Matt Hodson, Prif Swyddog Gweithrediadau Celtic Sea Power, “Y genhedlaeth nesaf fydd angen cael gafael ar y sylfeini sy’n cael eu gosod heddiw ac adeiladu arnynt i gyflawni’r pontio o ran ynni a’r her datgarboneiddio, felly mae’n wych gweld eu hangerdd drwy’r gân hyfryd hon. Rydym yn falch iawn o gael gweithio

gyda’n partneriaid i ddod o hyd i ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o Farina Doc Penfro, gan danio dychymyg y gymuned ac ysbrydoli gweithlu’r dyfodol.”

Yn ogystal â’r cyllid a ddarperir gan bartneriaid prosiect Morol Doc Penfro, derbyniodd y gweithdai ysgrifennu caneuon a’r fideos gefnogaeth gan Celfyddydau a Busnesau Cymru. Mae Sarah Lloyd, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, wrth ei bodd gyda’r ffordd y mae'r bartneriaeth wedi datblygu, gan ddweud “Mae ein rhaglen fuddsoddi CultureStep wedi’i llunio i gryfhau a datblygu’r berthynas rhwng ein busnes a phartneriaid yn y celfyddydau. Mae’r cydweithio rhwng Porthladd Aberdaugleddau ac Elusen Aloud yn enghraifft ragorol o’r rhaglen hon – mae’n gyfle delfrydol i ymgysylltu â gweithwyr, y gymuned leol, a’r genhedlaeth iau yn Ysgol Harri Tudur, gan roi cyfle iddynt fynegi eu barn ac ysbrydoli newid ar gyfer y dyfodol, tra’n cael gwerthfawrogiad cynyddol o rym y celfyddydau. Yn C&B Cymru rydym ar ben ein digon gyda’r fideo cerddoriaeth, a dylai pawb a gymerodd ran fod yn falch iawn o’r dreftadaeth ddigidol y maen nhw wedi’i chreu.”

Cenhadaeth yr Elusen Aloud yw darparu profiadau newid bywyd drwy ganu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 2012 i roi’r cyfle i fechgyn heb gynrychiolaeth ddigonol o gymunedau ymylol yng Nghymru i ganu, ac mae’r elusen bellach yn hwyluso rhaglenni canu amrywiol, gan gynnwys Only Boys Aloud, Only Kids Aloud ac Aloud Girls. Mae’r sefydliad yn ymgysylltu ag oddeutu 350 o bobl ifanc yr wythnos mewn lleoliadau ymarfer ledled Cymru, gan wella’u hyder, meithrin doniau a chynnig cyfleoedd perfformio cyffrous.

Meddai Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol yr Elusen Aloud: “Me wedi bod yn braf iawn gweithio gyda phartneriaid Marina Doc Penfro ac Ysgol Harri Tudur i gyflawni’r prosiect ysgrifennu cân unigryw hwn. Credwn ei bod mor bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i fynegi eu barn, yn enwedig pan ddaw hi at bynciau mor bwysig â chynaliadwyedd amgylcheddol a sut maen nhw’n effeithio ar eu cymunedau lleol. Rydym yn falch iawn o’r fideo cerddoriaeth terfynol a hoffem ddiolch o galon i bobl Doc Penfro am gymryd rhan yn y prosiect.”

Mae Marina Doc Penfro yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru hefyd.

I wylio’r fideo cerddoriaeth, ynghyd â fideo tu ôl i’r llenni, ewch i www.mhpa.co.uk/song-writing-project

image