Mae'r arena a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe fel rhan o ardal Bae Copr y ddinas, yn cael ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group (ATG),

Roedd dros 241,000 o bobl wedi mwynhau digwyddiadau yr oedd angen tocynnau ar eu cyfer, arddangosfeydd, gwleddoedd, seremonïau graddio a digwyddiadau dysgu creadigol yn y lleoliad hyd at fis Mawrth 2023.

The Hollywood Vampires - sy'n cynnwys Johnny Depp ac Alice Cooper - oedd y sêr mwyaf diweddar i ymddangos ar y llwyfan yn y lleoliad nos Wener diwethaf.

Mae The Proclaimers and Busted ymysg y sêr y disgwylir iddynt yn berfformio yn yr arena yn y misoedd sy'n dod.

Rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023, gwerthwyd dros 183,000 o docynnau ar gyfer digwyddiadau yno yr oedd angen tocynnau ar eu cyfer.

Dengys y ffigurau newydd hefyd fod 78.9% o'r tocynnau ar gyfer sioeau wedi'u gwerthu ym mlwyddyn ariannol 2022/2023, sy'n fwy na'r hyn a ragwelwyd sef 65% ar gyfer blwyddyn weithredu gyntaf yr arena.

Ariannwyd datblygiad yr arena'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r arena wedi bod yn llwyddiant eithriadol ers iddi agor gyntaf."

"Yn ogystal â denu cynifer o sêr o fydoedd cerddoriaeth, comedi a'r theatr, mae hefyd wedi darparu lle newydd o'r radd flaenaf ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, gwleddoedd a digwyddiadau eraill.

"Gan ei bod yn ategu ein lleoliadau diwylliannol eraill fel Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn, mae hyn yn golygu bod mwy o ddewis nag erioed o ran sioeau a chyngherddau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau yn Abertawe.

"Mae'r arena, yn ogystal â'r parc arfordirol a'r bont newydd, yn rhan o stori adfywio barhaus sy'n werth dros £1b sy'n trawsnewid Abertawe, yn creu swyddi ac yn hybu'n heconomi."

Dengys y ffigurau newydd fod 32 o ddigwyddiadau dysgu creadigol wedi'u cynnal yn yr arena rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023 er budd pobl leol yn ogystal â 45 niwrnod o gynadleddau, arddangosfeydd, gwleddoedd a seremonïau graddio.

Mae sioeau eraill a gaiff eu cynnal yn yr arena yn y misoedd sy'n dod yn cynnwys Nothing But Thieves, Sarah Millican fel rhan o'i thaith Late Bloomer, yr astroffisegwr enwog sydd i'w weld ar y teledu, Yr Athro Brian Cox, yn ogystal ag ailymweliadau gan y sioe syfrdanol o'r West End sef SIX a Michael McIntyre.

Mae twrnamaint snwcer BetVictor sydd ymysg prif ornestau'r byd hefyd wedi'i gadarnhau ar gyfer y lleoliad o 6 Rhagfyr i 9 Rhagfyr.

image